Lansio Cynllun Plant a Phobl Ifanc Blaenau Gwent Lansiodd Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Blaenau Gwent eu Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar 8 Hydref 2008. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol yn Sefydliad Llanhiledd gyda’r Cynghorydd Stephen Bard (Aelod Gweithredol Addysg), Phil Hodgson (Cyfarwyddwr Arweiniol Plant a Phobl Ifanc a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymunedol) a Laura Beaten, Maer Ieuenctid. I sicrhau y medrai plant a phobl ifanc gymryd rhan a mwynhau digwyddiad mor bwysig, sefydlwyd cystadleuaeth ar gyfer pob ysgol ym Mlaenau Gwent i gymryd rhan mewn cystadleuaeth chwaraeon am eu huchelgais ar gyfer y dyfodol. Gwahoddwyd yr enillwyr lwcus o bob rhan o’r Fwrdeisdref i gymryd rhan mewn balwn aer poeth ar dennyn dros gwm Llanhiledd. Darparwyd gweithgareddau hefyd i’r holl enillwyr gymryd rhan. Bu’r diwrnod yn llwyddiant mawr ac roedd ymateb y plant yn gadarnhaol iawn. Diolch i Sefydliad Llanhiledd ac Ysgol Gynradd Sant Illtud ar gyfer gadael i ni ddefnyddio eich cyfleusterau i lansio Cynllun Plant a Phobl Ifanc.