Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc

CYPP Logo

Mae Cyngor Bwrdesidref Sirol Blaenau Gwent wedi sefydlu ei Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc yn ddiweddar, sy’n adeiladu ar aelodaeth a gwaith y cyn Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc a’i ddau is-bartneriaeth, y Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc.

 

Mae’r bartneriaeth yn gyfrifol am ddatblygu a chytuno ar y Cynllun Plant a Phobl Ifanc, y datganiad strategol allweddol sy’n nodi sut y caiff lles pob plentyn a pherson ifanc yn yr ardal eu gwella.

 

Bwriedir i hyn:

Roi gweledigaeth strategol a nodi’r blaenoriaethau a gytunwyd fydd yn cyfeirio gwaith pob partner;
Disgrifio sut y caiff gofynion strategaethau cenedlaethol a lleol, polisïau a blaenoriaethau eu trin yn lleol;
Gosod cydamcanion a gytunwyd ar gyfer gwasanaethau a all weithredu fel cerrig milltir i alluogi cynnydd mewn gwella canlyniadau i gael eu mesur dros yr amserlen cynllunio;
Dynodi cyfraniad partneriaid unigol tuag at gyflawni amcanion ar y cyd, gan sicrhau eu bod yn gyson ac yn cefnogi ei gilydd.
Rhoi sylfaen ar gyfer cyd-gomisiynu gwasanaethau a rhannu’r cyllid sydd ar gael, yn cynnwys cyllidebau craidd partneriaid statudol ac adnoddau neu gyfraniadau ariannol gan y sector gwirfoddol.
Mae’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn gynllun 3 blynedd yn dechrau ym mis Medi 2008 ac mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynhyrchu canllawiau ar sut i lunio cynllun.

 

Manylion Cyswllt

Rhif Ffôn Cefnogaeth Partneriaeth 01495 355584