Llywodraethwyr

Education & Learning Montage Image

ADRAN ADDYSG
CYMORTH I LYWODRAETHWYR

Croeso i wefan swyddogol Cymorth a Chyngor i Lywodraethwyr ar gyfer Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent.

Mae ein tîm bach o swyddogion profiadol yn cydweithio i roi cysylltiad cryf ac effeithol rhwng Corff Llywodraethu, Ysgolion a’r Awdurdod Addysg Lleol.

Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth clercio holl-gynhwysfawr i roi gwybodaeth i lywodraethwyr am eu rôl sy’n newid drwy’r amser.

Caiff rhaglen lawn o ddigwyddiadau hyfforddiant, yn cynnwys amrywiaeth o bynciau, ei threfnu a’i chyflwyno gan y tîm i lywodraethwyr ei chyrchu drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Rydym hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth ar faterion megis:

  • Materion ariannol
  • Staffio
  • Materion disgyblaethol
  • Gwahardd disgyblion
  • Adolygu cyflogau

I’r corff llywodraethu weithredu’n effeithlon ac effeithiol, mae’n hollbwysig fod cyngor a chanllawiau ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch.

Gobeithiwn y bydd ein safle yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol i chi. Mae croeso i chi adael i ni wybod os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ar gyfer eitemau y medrid eu cynnwys ar y safle. Croesawn eich mewnbwn. Medrwch anfon neges e-bost atom yn:
education.department@blaenau-gwent.gov.uk

Dymuniadau gorau
Cymorth Llywodraethwyr