Mae nifer o ffyrdd o helpu defnyddwyr i gael y gorau o’r wefan yma – mae’r manylion isod.
Bysellau mynediadI ddefnyddio’r allweddau mynediad dilynwch y canllawiau canlynol:
- Dylai defnyddwyr Windows bwyso ‘ALT’ a’r fysell mynediad perthnasol
- Dylai defnyddwyr Macintosh bwyso ‘Control’ a’r fysell mynediad perthnasol
- Yna bydd pwyso ‘Enter’ yn mynd â chi i’r dudalen yna.
Rydyn ni wedi cynnwys y bysellau mynediad safonol canlynol, sy’n cynnwys:
- S = Osgoi’r gwe-lywio
- 1 = Hafan
- 2 = Newyddion
- 3 = Map o'r wefan
- 4 = Chwilio
- 5 = A i Y o’r gwasanaethau
- 8 = Ymwadiad
- 9 = Cysylltwch â ni
- 0 = Cymorth cyrchu
Gallwch chi newid maint y sgrin, fel bod llai o eiriau ar bob llinell, drwy fachu’r bar llwyd ar waelod ochr dde’r safle.
Maint y testunOs ydych chi’n teimlo bod maint y testun ar y wefan yma’n rhy fawr neu’n rhy fach i’w ddarllen yn hawdd, gallwch chi newid maint y testun drwy’ch porwr. Gallwch chi hefyd ddewis ffont, lliwiau, a lliwiau’r cefndir a’r blaendir. Bydd gan bob porwr gyfarwyddiadau gwahanol ar gyfer gwneud hyn.
(Sylwer – bydd rhai cyfrifiaduron yn gadael i chi wneud y testun yn fwy trwy bwyso bysellau 'Control' ac 'ALT' ar yr un pryd a defnyddio’r olwyn ar ganol y llygoden i wneud y testun yn fwy neu’n llai).
Microsoft Internet ExplorerOs ydych chi’n defnyddio Internet Explorer, ewch i’r ddewislen ar frig ffenest y porwr a dewiswch ‘View’, yna dewiswch ‘Text Size’ o’r rhestr fydd yn ymddangos. Fe welwch chi fod dewislen ochr wedi agor, dewiswch y maint yr hoffech chi i’r wefan fod.
Firefox (Mozilla)Os ydych chi’n defnyddio Firefox, ewch i’r ddewislen ar frig ffenest y porwr a dewiswch ‘View’, yna dewiswch ‘Text Size’ o’r rhestr fydd yn ymddangos. Fe welwch chi fod dewislen ochr wedi agor, dewiswch y maint yr hoffech chi i’r wefan fod.
Mae Firefox hefyd yn gadael i chi newid maint y testun drwy ddefnyddio llwybrau byr y bysellfwrdd:
- Pwyswch Ctrl a + i wneud y testun yn fwy
- Pwyswch Ctrl a – i wneud y testun yn llai
- Pwyswch Ctrl a 0 i fynd yn ôl i’r maint arferol
Os ydych chi’n defnyddio Netscape Navigator, gallwch chi newid maint y testun trwy ddefnyddio llwybrau byr y bysellfwrdd:
- Pwyswch Ctrl a + i wneud y testun yn fwy
- Pwyswch Ctrl a – i wneud y testun yn llai
- Pwyswch Ctrl a 0 i fynd yn ôl i’r maint arferol
- I weld y dudalen gyfan: F1
Os ydych chi’n defnyddio system weithredu Macintosh
- Pwyswch Cmd a + i wneud y testun yn fwy
- Pwyswch Cmd a - i wneud y testun yn llai
- Pwyswch Cmd a 0 i fynd yn ôl i’r maint arferol
Os ydych chi’n defnyddio system weithredu Linux
- Pwyswch Ctrl a + i wneud y testun yn fwy
- Pwyswch Ctrl a – i wneud y testun yn llai
- Pwyswch Ctrl a 0 i fynd yn ôl i’r maint arferol
Os ydych chi’n defnyddio Internet Explorer, cliciwch ar ‘Tools’, yna ‘Options’ ac yna dewiswch o’r botymau lliw, ffont a hygyrchedd.
Dogfennau PDFMeddalwedd rhad ac am ddim yw Adobe® Acrobat® Reader sy’n gadael i chi weld ac argraffu dogfennau sydd ar ffurf Adobe Portable Document Format (PDF). Lawrlwytho Acrobat Reader|.
Gall Adobe hefyd eich helpu chi i gyrchu cynnwys y wefan drwy dechnolegau cynorthwyol e.e. darllenwyr sgrin a chwyddwydrau sgrin. Gallwch chi ddefnyddio’r ddolen yma i wefan Adobe| i gael rhagor o wybodaeth am ddogfennau hygyrch.
Cydymffurfio â W3CMae’r World Wide Web Consortium| (W3C) yn darparu canllawiau Web Content Accessibility Guidelines| ar gyfer pobl sy’n creu ac yn cynnal gwefannau.
Mae’r canllawiau yma’n helpu sefydliadau i ddarparu gwefannau sy’n hygyrch i bobl ag anableddau. Mae’r canllawiau wedi’u rhannu’n dair lefel o flaenoriaeth:
- Blaenoriaeth 1
- Blaenoriaeth 2
- Blaenoriaeth 3
Bydd pob tudalen ar y wefan yma’n cydymffurfio â Blaenoriaeth 1 a’r rhan fwyaf o’r tudalennau yn cydymffurfio â Blaenoriaethau 1 a 2.
Rydyn ni’n ymroi i gynnal a chadw, a gwella, hygyrchedd y wefan yma. Ein nod yn y tymor hir yw darparu gwefan sy’n cydymffurfio â phob un o lefelau blaenoriaeth y Canllawiau.




