Gwasanaeth Cwynion Plant

 

 

MAE EICH LLAIS YN CYFRIF HEFYD!

Os ydych yn anhapus gydag unrhyw un o’r gwasanaethau mae’r Cyngor yn ei ddarparu, mae gyda chi hawl i gwyno. Mae gan blant rhwng 5 ac 18 wasanaeth newydd i’w ddefnyddio’n nawr, sy’n cael ei alw yn Siop Un Stop, lle gallwch esbonio eich cwyn a chael ateb gan yr un person. Mae’r person a fydd yn eich helpu yn wasanaeth bydi, a bydd yn croesawu eich cwynion neu syniadau am welliant. Bydd eich gwasanaeth bydi yn ymchwilio eich cwyn, ac yn dod 'nôl atoch am y gwyn yma, neu bydd yn gwneud nodyn am eich syniadau ar gyfer gwella gwasanaeth, ac yn ei drosglwyddo i’r gwasanaeth penodol hwnnw.

08000 121 123 yw’r rhif rhadffôn am y gwasanaeth newydd yma neu mi allwch decstio  07786 202 915 neu ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost yn y ‘Gwybodaeth Gyswllt’ yn y panel isod. Os oes yn well gyda chi, gallwch ysgrifennu i’r Gwasanaeth Bydi yn yr Adran Gwynion, Canolfan Sifig, Glyn Ebwy NP23 6XB.

Beth yw gwasanaeth Cyngor? Mae’r gwasanaethau yma yn cynnwys:-

  • Gofal Maeth
  • Budd-daliadau Tai
  • Parciau a Llefydd Chwarae
  • Llyfrgelloedd
  • Clybiau ieuenctid
  • Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden
  • Theatrau
  • Ffyrdd
  • Troseddwyr Ifanc
  • Teithio i’r Ysgol
  • Adeiladau ysgol
  • Addysg Dysgu Gymunedol

Rydym yn gobeithio y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth yma, neu os hoffech i  ni ddod i’ch ysgol neu glwb ieuenctid i esbonio am y gwasanaeth yma, byddwn yn hapus i wneud hynny - does ond rhaid i chi gysylltu gyda ni.

Angela and Mel
Eich Gwasanaeth Bydi

Manylion Cyswllt

The freephone number of this new service is 08000 121 123 or you can text  07786 202 915.  If you prefer, you can write to Service Buddy at the Complaints Department, Civic Centre, Ebbw Vale. NP23 6XB.

If you prefer to email your complaint, use the email address below.

E-bost : help@servicebuddy.co.uk