Pob blwyddyn ariannol, mae gofyn i’r Cyngor baratoi cyllideb, sydd yn amlinellu ei wariant arfaethedig am y flwyddyn a sut y bydd y gwariant hwnnw yn cael ei ariannu. Yn ystod y flwyddyn, bydd y gyllideb yn cael ei defnyddio fel rheolaeth er mwyn sicrhau fod y gwariant yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor, fel yr amlinellir yn y ddogfen Amcangyfrifon Cyllidol.
Ar ddiwedd y flwyddyn, rhaid cynhyrchu Datganiad o Gyfrifon sydd yn cofnodi, mewn cydymffurfiaeth â chanllaw statudol ac eraill, sut y bu i’r Cyngor wario ei arian yn ystod y flwyddyn ariannol.
Gellir cael mynediad at Gyllidebau Blynyddol a Chyfrifon Terfynol y Cyngor drwy’r fwydlen ar yr ochr chwith o’r dudalen hon.