Rheolau a Rheoliadau Caffaeliad
Fel gweithrediad caffaeliad awdurdod lleol, mae yna reoliadau ar Lefel Ewropeaidd, Cenedlaethol a Lleol y mae yn rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â hwy wrth gaffael Cyflenwadau, Gwasanaethau a Gweithfeydd. Mae’r wybodaeth isod yn rhoi amlinelliad cryno o’r rheoliadau hynny:
Rheoliadau Ewropeaidd
Mae’r holl gytuneddau sector gyhoeddus, pa bynnag eu gwerth o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yn destun i gytundeb sydd yn ymgorffori’r symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau, sydd yn atal gwahaniaethu yn erbyn cwmnïau ar sail cenedligrwydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy Tenders Electronic Daily.
Mae’r Cyfarwyddebau a’r Rheoliadau yn gofyn i’r Cyngor i ddilyn gweithdrefnau manwl ar gyfer yr holl gaffaeliad sydd uwchlaw trothwy cyllidol penodol. Mae’r trothwyon yn cael eu hadolygu pob dwy flynedd ac wedi eu hamlinellu isod:
Trothwyon Caffaeliad Cyhoeddus - 1af Ionawr 2007 - 31ain o Ragfyr 2008
Cyflenwadau £144,459
Gwasanaethau £144,459
Gweithfeydd £3,611,474
Mae Rheolau Sefydlog Contract y Cyngor Bwrdeistref Sirol (RSC) yn gosod y safonau a’r fframwaith oddi mewn y gellid gwneud cytundebau ar ran y Cyngor Bwrdeistref Sirol. Prif bwrpas y RSC yw sicrhau bod pob un cytundeb a gytunir arno yn gyfreithlon ac ar y termau economaidd mwyaf manteisiol i’r Cyngor Sir.
Mae’r Rheolau yn ffurfio rhan o Gyfansoddiad y Cyngor ac fe’u hadolygwyd diwethaf yn Chwefror 2006. Roedd yr adolygiad diweddaraf o’r Rheolau wedi cymryd i ystyriaeth arferion caffaeliad datblygol a’r Gyfarwyddeb Caffaeliad Cyhoeddus Ewropeaidd 2004/18/E a’r Rheoliadau DU cysylltiol a ddaeth i rym ar 31ain o Ionawr 2006. Roedd yr adolygiad hefyd wedi cymryd i ystyriaeth arferion caffaeliad datblygol, cyflwyniad Strategaeth Caffaeliad Cenedlaethol ar gyfer Llywodraeth Leol, Strategaeth Caffaeliad Corfforaethol y Cyngor 2006-09 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.





