Cyfrifoldeb ar gyfer Gwneud Penderfyniad
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi ac yn cadw cofnod cyfredol o ba ran o’r Cyngor neu pa unigolyn sydd â chyfrifoldeb am fathau arbennig o benderfyniadau neu benderfyniadau sydd yn berthnasol i ardaloedd neu swyddogaethau penodedig. Mae’r cofnod yma yn cael ei osod allan yn Rhan 3 o’r Cyfansoddiad.
Penderfyniadau sydd wedi eu neilltuo i’r Cyngor Llawn
Yn hytrach na’r holl o’r 42 o Gynghorwyr yn cwrdd i drafod materion a chymeradwyo unrhyw bolisïau mawr newydd neu gynlluniau gwario.
Bydd penderfyniadau sydd yn perthyn i swyddogaethau sydd wedi eu rhestru yn Erthygl 4.02 o’r Cyfansoddiad yn cael eu gwneud gan y Cyngor llawn ac nid yn cael eu dirprwyo.
Y Cyngor a Gwneud Penderfyniadau
Bydd y cyfarfod Cyngor yn dilyn y Rheolau Gweithdrefn fel eu hamlinellir yn Rhan 4 o’r cyfansoddiad wrth ystyried unrhyw fater.
Y Gweithgor a Gwneud Penderfyniadau
Mae’r Gweithgor wedi ei wneud o’r Arweinydd ac 8 Cynghorwr arall, sydd yn cael eu hethol yn flynyddol gan y Cyngor. Mae’r Gweithgor yn gweithredu holl swyddogaethau’r Cyngor, na sydd yn gyfrifoldeb unrhyw ran arall o’r Awdurdod Lleol.
Bydd y Gweithgor yn dilyn y Rheolau Gweithdrefn Gweithgor fel y cânt eu hamlinellu yn Rhan 4 o’r Cyfansoddiad wrth ystyried unrhyw fater.
Pwyllgorau Archwilio a Gwneud Penderfyniadau
Nid oes gan Bwyllgorau Archwilio unrhyw bwer i wneud penderfyniadau. Mae’r pwyllgorau yn adolygu ac yn archwilio’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan y Gweithgor, yn gwneud argymhellion ar gyfer newid yn seiliedig ar eu hymchwil ac yn cynorthwyo’r Cyngor a’r Gweithgor yn natblygiad o’i gyllid a fframwaith polisi.
Bydd Pwyllgorau Archwilio yn dilyn y Rheolau Gweithdrefn Archwilio fel eu hamlinellir yn Rhan 4 o’r Cyfansoddiad wrth ystyried unrhyw fater.
Gwneud Penderfyniadau gan Gyrff Cyngor sydd yn Ymddwyn fel Tribiwnlysoedd
Bydd y Cyngor, Cynghorwr neu Swyddog yn ymddwyn fel tribiwnlys neu mewn modd lled-farnwrol neu yn penderfynu / ystyried (heblaw am ddibenion rhoi cyngor) hawliau dinesig a goblygiadau neu gyfrifoldeb troseddol unrhyw berson yn dilyn gweithdrefn briodol sydd yn cydsynio gyda gofynion cyfiawnder naturiol a’r hawl i achos teg sydd yn cael ei gynnwys o fewn Erthygl 6 o Gyfansoddiad Ewropeaidd ar Iawnderau Dynol.





