Etholiadau - pleidleisiau post

Pleidleisio drwy’r Post
    

 

Cyflwyniad

Gall etholwyr cofrestredig nawr ddewis i bleidleisio mewn unrhyw etholiad (Lleol, Cynulliad Cymru, Senedd Du / Ewropeaidd) drwy’r bost. Gallwch wneud cais am bleidlais bost mewn etholiad penodol, am bob etholiad neu am gyfnod penodedig. Byddwch fel arfer yn derbyn pleidlais bost 10 diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio.
  

Pwy all wneud cais am bleidlais bost?

Gall unrhyw un sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr gyhoeddedig o etholwyr neu sydd wedi gwneud cais i’w ychwanegu fel rhan o’r broses ddiweddaru misol wneud cais am bleidlais bost.
 
 
Os nad ydych wedi eich cofrestru i bleidleisio

Gallwch wirio i weld os ydych ar y gofrestr o etholwyr drwy gysylltu gyda Chofrestru Etholiadol. Os nad ydych wedi eich cofrestru yna gallwch wneud cais drwy gwblhau ffurflen Cofrestru Pleidleisiwr. Dewiswch y dudalen ‘Cofrestru i Bleidleisio’. Gallwch nawr ymuno gyda’r gofrestr etholiadol drwy’r flwyddyn fel rhan o’r broses ddiweddaru fisol, ond i fod yn gymwys ar gyfer pleidleisio mewn blwyddyn etholiadol mae angen i chi fod wedi eich cofrestru fel arfer erbyn canol mis Ebrill, (11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio).


Sut i wneid cais am bleidlais bost

Gwnewch gais am ffurflen gais Pleidlais Bost o’r Adran Gofrestru Etholiadol, bydd y ffurflen yma wedi ei bersonoli ar eich cyfer. Er mwyn fod yn gymwys ar gyfer pleidlais bost rhaid i chi gwblhau eich llofnod a dyddiad geni ar y ffurflen, ysgrifennwch mewn lliw du os gwelwch yn dda. Os na fedrwch gwblhau’r ffurflen yma oherwydd salwch, neu am na allwch ysgrifennu, yna cysylltwch gyda’r Adran Gofrestru i ofyn am ffurflen ildiad.
  

Dychwelyd eich ffurflen

Dylid postio eich ffurflen gais Etholiad Post yn yr Amlen Ymateb Busnes i:-
Cofrestru Etholiadol
Canolfan Sifig
GLYN EBWY
NP23 6XB

 
Beth sydd yn digwydd wedi i mi wneud cais?

A bod yna ddigon o amser cyn yr etholiad (y dyddiad cau presennol yw 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio) byddwch yn derbyn cadarnhad bod eich cais wedi ei dderbyn.

Bydd pobl sydd yn byw yn y DU yn derbyn amlen â stamp dosbarth cyntaf sydd wedi ei dalu amdano’n barod ynghyd â’i ffurflen gais a chyfarwyddiadau yn esbonio sut mae ei chwblhau. Bydd yn rhaid i’r rhai hynny sydd yn pleidleisio o dramor dalu am ddychwelyd eu pleidlais. Rhaid i bawb sicrhau eu bod yn gadael digon o amser (Mae’r Post Brenhinol yn argymell 48 awr) er mwyn iddo gyrraedd y Swyddfa Cofrestru Etholiadol erbyn y diwrnod pleidleisio.
 
 
Cofrestru Etholiadol
Canolfan Sifig
GLYN EBWY
NP23 6XB
Teleffon: (01495) 355086/355088
Ffacs: 01495 301255
E-bost: Audra.Williams@blaenau-gwent.gov.uk

Oriau agor:
Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm.

 

Manylion Cyswllt

Cofrestru Etholiadol
Canolfan Sifig
GLYN EBWY
NP23 6XB

Teleffon: (01495) 355086/355088
Ffacs: 01495 301255

Oriau agor:
Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 5pm.

 

E-bost : Audra.Williams@blaenau-gwent.gov.uk