ADRAN CYLLID A PHOLISI
TÎM POLISI A THECHNEGOL
Croeso i dudalennau gwe Tîm Polisi a Thechnegol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Mae Tîm Polisi a Thechnegol Adran Polisi Cyllidol yn cynnwys saith aelod o staff, sydd yn delio â meysydd cyfrifo Polisi a Thechnegol ar gyfer yr Awdurdod. Y prif feysydd gwaith a ymgymerir gan y tîm yw:
Rheolaeth Trysorlys
Diffinnir Rheolaeth Trysorlys fel a ganlyn:
"Rheolaeth o lif arian yr awdurdod lleol, ei fenthyciadau a’i fuddsoddiadau, rheolaeth y risgiau cysylltiol a cheisio sicrhau'r perfformiad neu adenillion gorau posib yn gyson gyda’r risgiau hynny. “
Mae gweithgareddau rheolaeth y trysorlys Awdurdodau Lleol wedi eu pennu gan statud. Ffynonellau eu pwerau yw, yng Nghymru a Lloegr, Deddf Llywodraeth Leol 2003 (Deddf 2003). Mae’r gweithgareddau Rheolaeth y Trysorlys cymeradwy a ymgymerir gan y Tîm Polisi a Thechnegol fel a ganlyn:-
(a) Rhagweld llif arian a rheolaeth;
(b) Benthyg er mwyn cyllido diffyg arian dros dro;
(c) Buddsoddi cyllid sydd dros ben mewn Buddsoddiadau Cymeradwy;
(d) Cyllido taliadau cyfalaf drwy fenthyca, derbynebau cyfalaf, grantiau neu brydlesi;
(e) Rheolaeth o Ddyled;
(f) Ail-gyllido dyled aeddfed;
(g) Rheolaeth o fod yn ddiamddiffyn erbyn Cyfraddau Llog;
(h) Delio gyda broceriaid, banciau a Bwrdd Benthyg Gweithfeydd Cyhoeddus (BBGC).
(i) Monitro cyfleoedd i wella perfformiad rheolaeth trysorlys gan gynnwys ailstrwythuro dyled.
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn gosod y Datganiad Strategol Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddiad Blynyddol sydd i’w dilyn gan yr Awdurdod am y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae Datganiad Strategol Trysorlys yn manylu’r gweithgareddau disgwyliedig o’r swyddogaeth Trysorlys yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae ei gynhyrchiad a’i gyflwyniad i’r Cyngor yn ofyniad o God Ymddygiad y CIPFA ar Reolaeth Trysorlys (2001).
Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003 hefyd yn gofyn i’r Awdurdod i baratoi Strategaeth Buddsoddiad Blynyddol.
Treth ar Werth (TAW)
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn cyflwyno ffurflenni TAW i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn fisol ar ran yr Awdurdod er mwyn ail-hawlio TAW ar bryniadau’r Awdurdod ac i dalu TAW ar incwm yr Awdurdod.
Mae’r tîm hefyd yn rheoli ac yn cynghori ar yr holl agweddau o TAW i’r Awdurdod, gan gynnwys y cyfrifiad rhyddhad rhannol, er mwyn sicrhau fod y TAW yn cael ei gyfrif yn gywir a bod risgiau rheolaeth treth yn cael eu lliniaru.
Rhaglen Gyfalaf
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn cydlynu cynhyrchiad o raglen gyfalaf tair blynedd yr Awdurdod ac yn monitro ac yn adrodd ar yr holl wariant cyfalaf a wneir yn ystod y flwyddyn ariannol. Mae’r tîm yn cau'r cyfrifon cyfalaf, sydd yn ffurfio rhan o’r Datganiad Blynyddol o Gyfrifon sydd yn cael ei gynhyrchu gan yr Adran Gyfrifyddiaeth.
Ceisiadau grant cyfalaf
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn paratoi ac yn cyflwyno'r mwyafrif o geisiadau grant cyfalaf i gyrff allanol, ar ran holl adrannau’r Awdurdod. Dyma enghreifftiau o’r prif fathau o geisiadau grant cyfalaf sydd yn cael eu cyflwyno yw:
- Hawliadau Amcan 1 i’r Mudiad Cyllid Ewropeaidd Cymreig (MCEC neu WEFO);
- Hawliadau Cyllid Adfywio Lleol i Lywodraeth Cynulliad Cymru;
- Hawliadau Cyllid Adfywio Ffisegol i Lywodraeth Cynulliad Cymru;
- Hawliadau Cyllid Cludiant i i Lywodraeth Cynulliad Cymru;
- Hawliadau i’r Adran Mentergarwch, Dyfeisgarwch a Rhwydweithiau (DEIN), sydd yn brif adran newydd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Asesiadau Gwario Safonol
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn ymchwilio i mewn ac yn dadansoddi system Asesiad Gwario Safonol Cymreig er mwyn cefnogi achos yr Awdurdod am gynnydd mewn cyllid oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Yr Asesiad Gwario Safonol (AGS) yw’r mecanwaith ar gyfer dosbarthu grantiau cefnogaeth cyllid (GCC) i awdurdodau lleol yng Nghymru i’w cynorthwyo i godi’r un dreth cyngor mewn theori ar gyfer darparu safon debyg o wasanaeth. Mae’r AGS wedi eu bwriadu i adlewyrchu amrywiaethau yn yr angen i wario, sydd i’w ddisgwyl efallai os ydy’r holl awdurdodau yng Nghymru yn ymateb mewn modd tebyg i’r galw am wasanaethau yn eu hardaloedd. Mae’r AGS wedi eu selio ar fformiwla ac yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r gyllideb refeniw sydd yn cael ei gosod gan yr Awdurdod yn medru bod yn uwch neu’n is na’r ASG ar gyfer yr Awdurdod, gan fod penderfyniadau ynghylch y lefel o wasanaeth a ddarperir yn amrywio o awdurdod i awdurdod (gan ei fod yn cael ei yrru gan anghenion yr ardal). Fodd bynnag, mae lefel gyffredinol y gyllideb yn cael ei gyfyngu gan y gallu i wneud cyfraniadau o gronfeydd wrth gefn yr Awdurdod ‘r gallu i gynyddu treth cyngor, ill dau yn destun i ystyriaeth wleidyddol a rheoleiddiol.
Fframwaith strategaeth gyllidol tair blynedd
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn cyfrannu i ddatblygiad parhaus strategaeth gyllidol tair blynedd yr Awdurdod, sydd yn cynnwys:
- Defnydd gwybodus o ddata cymharol ar adegau allweddol o’r broses gosod cyllid;
- Datblygu gwybodaeth budd-ddeiliaid i gynnig gwybodaeth i’r broses gosod cyllid;
- Datblygiad a gwerthusiad o Gynlluniau Benthyg Cynghorus er mwyn gwireddu potensial o hyblygrwydd cyllid arloesol;
- Croesgyfeirio cyllidebau i ddogfennau strategol allweddol;
- Sefydlu proses rymus i werthuso cynigion twf sydd yn gyson gyda’r cyfarwyddebau polisi newydd a’r rhai sydd i ddod;
- Defnydd o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli er mwyn rhagamcanu ffigyrau arwyddol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf;
- Defnydd o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli er mwyn rhagamcanu ffigyrau arwyddol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf;
- Defnydd o ddadansoddiad sensitifrwydd lefel strategol er mwyn rhagamcanu lefelau amrywio o gynnydd mewn Treth Cyngor a’r tybiaethau am Setliad Grant Cefnogaeth Cyllid.
Y Cod Prudential
Mae’r Tîm Polisi a Thechnegol yn gyfrifol am sicrhau fod yr Awdurdod yn cydymffurfio gyda Chod Prudential y CIPFA.
Mae’r Cod Prudential yn gofyn i awdurdodau lleol i hunan-reoleiddio pa mor fforddiadwy, gochelgar a chynaliadwy yw eu cynlluniau gwariant cyfalaf a benthyg, drwy osod amcangyfrifon a therfynau ar ffurf dangosyddion cynghorus. Mae hefyd yn gofyn fod arferion rheolaeth trysorlys yn unol ag arfer da.
Mae dangosyddion cynghorus wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor fel rhan o’r broses cymeradwyo’r gyllideb flynyddol, sydd yn digwydd cyn cychwyn y flwyddyn ariannol.





