Mae’r Cyngor yn gosod cyllideb ar gyfer pob blwyddyn ariannol sydd wedi ei selio ar y swm sydd ganddo i’w wario er mwyn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd. Mae’r incwm ar gyfer y gwasanaethau yma yn dod gan fwyaf o Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ffurf Grant Cefnogi Refeniw, Cyfraddau Annomestig a Grantiau Gwasanaeth Penodol.
Mae cydbwysedd y cyllido yn cael ei dynnu o goffrau sydd yn cael eu dal gan yr Awdurdod, ffioedd gwasanaeth a Threth Cyngor.





