Arolwg Preswylwyr Byw ym Mlaenau Gwent
Yn ystod gwanwyn/haf 2009, cynhaliodd y Cyngor, gyda darparwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill, Arolwg Preswylwyr “Byw ym Mlaenau Gwent”. Cafodd yr arolwg ei ariannu gan Fwrdd Gwasanaeth Lleol Blaenau Gwent, a gofynnodd gwestiynau am gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ym Mlaenau Gwent yn ei gyfanrwydd. Ynghyd â’n partneriaid, bydd y Cyngor yn medru defnyddio’r canfyddiadau i lunio sut yr ydym yn cynllunio a chyflenwi ein gwasanaethau.
Er mwyn i ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus gynnig y lefel uchel o wasanaethau a ddisgwyliwch, mae angen iddynt ddeall sut y teimlwch am yr ardal a’r gwasanaethau a ddefnyddiwch, a sut y credwch y medrir gwella’r ardal a’r gwasanaethau sydd ar gael. Y ffordd honno, gall darparwyr gwasanaeth roi eich profiadau ac awgrymiadau yng nghanol eu gwneud penderfyniadau a gwella cyflenwi ac ansawdd y gwasanaethau a ddefnyddiwch.
Teithiodd cynrychiolwyr ymchwil a hyfforddwyd o CELLO mruk i bob rhan o Flaenau Gwent gan gyfweld â thua 1,000 o breswylwyr a ddetholwyd ar hap. Roedd y cyfweliadau yn cymryd tua 45 munud yr un, ac fe’u cynhaliwyd o fewn cartrefi preswylwyr.
I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Thîm Polisi ac Ymchwil y Cyngor ar 01495 355786
BETH DDWEDASOCH WRTHYM! - CBSBG yn Cysylltu Gyda Phreswylwyr.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Arolwg Bodlonrwydd Preswylwyr 2005
Comisiynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol MORI i ymgymryd ag Arolwg o breswylwyr Blaenau Gwent.
Prif amcan yr arolwg oedd darparu’r awdurdod gyda data cadarn a oedd yn mesur y farn a bodlonrwydd cyhoeddus o ddarpariaeth gwasanaethau yn gywir, ymwybyddiaeth o wasanaethau’r cyngor, ynghyd â barn preswylwyr am fyw ym Mlaenau Gwent.
Cyfwelodd MORI gyfanswm o 1,053 o breswylwyr dros 16 mlwydd oed mewn mannau a ddewiswyd ar hap ar draws Blaenau Gwent. O fewn pob pwynt sampl, gosodwyd targedau cyfwelwyr i adlewyrchi broffil yr ardal honno mewn oedran, rhyw a statws gwaith, gan ddefnyddio data Cyfrifiad 2001. Yn ystod y cam dadansoddi, pwyswyd data i broffil poblogaeth ardal y Cyngor Bwrdeistref Sirol.
Gwnaed gwaith maes, wyneb i wyneb ac o fewn y cartref, rhwng 10 Ionawr a 15 Chwefror, gan weithlu MORI.
Mae’r adroddiad llawn yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg hwn. Mae prif ran yr arolwg yn gosod allan canfyddiadau manwl yr arolwg o dan yr is-deitlau canlynol:
- Blaenau Gwent fel Lle i Fyw;
- Ansawdd Bywyd ym Mlaenau Gwent;
- Bodlonrwydd gyda’r Cyngor;
- Delwedd y Cyngor;
- Darpariaeth Gwybodaeth;
- Defnydd Gwasanaeth a Bodlonrwydd; a
- Pleidleisio a Democratiaeth Leol.
Hefyd, mae pamffledau crynodeb ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn cyflwyno prif ganlyniadau’r arolwg.
Bydd y wybodaeth a’r data a gynhyrchir o’r arolwg yma yn galluogi’r Cyngor i gael dealltwriaeth gwell o beth mae’r preswylwyr yn ei deimlo am yr ardal a’r Cyngor, a fydd ond yn ychwanegu i allu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a fydd o fudd i’r ardal.





