Bydd eich Budd-dal Tai Cyngor fel arfer yn cychwyn o’r dydd Llun wedi i ni dderbyn eich ffurflen gais.
Mae’n bwysig eich bod yn dychwelyd eich ffurflen gais cyn gynted ag y bo modd gan y gall unrhyw oedi golygu y medrwch golli allan ar hawliad Budd-dal.
Gallwch fodd bynnag ofyn i gael eich hawliad wedi ei ôl-ddyddio. Y cyfnod hwyaf ar gyfer ôl-ddyddio eich hawliad yw 52 wythnos o’r dyddiad yr ydych yn gwneud eich hawliad, a rhaid iddo fod mewn ysgrifen.
Gellir ond ôl-ddyddio Budd-dal Tai mewn achosion lle y mae modd i chi ddangos rheswm da parhaus am fethiant i wneud hawliad ynghynt.
Mae’r cwestiwn o ôl-ddyddio ond yn codi wrth geisio am Fudd-dal Tai am gyfnod yn y gorffennol lle nad oes hawliad wedi’i wneud.
Mae yna gwestiwn wedi’i gynnwys ar y Ffurflen Gais sydd yn gofyn i chi gadarnhau'r dyddiad yr hoffech i gychwyn ohono, os ydych am i’ch hawliad gael ei ôl-ddyddio, yna rhowch y manylion yma, gan roi rhesymau dros yr oedi wrth gyflwyno eich ffurflen gais.
Fel arall, gallwch ysgrifennu llythyr atom yn manylu pam na wnaethoch hawliad ynghynt.
Un esiampl o achos da yw os nad oedd modd i chi gwblhau’r ffurflen am i chi fod yn yr ysbyty. Nid yw achos da yn cynnwys eich bod wedi anghofio llenwi’r ffurflen. Nid yw ôl-ddyddio yn gymwys os ydych mewn oedran pensiwn oherwydd mae yn ôl-ddyddio awtomatig o 52 wythnos, sy’n ddibynnol ar eich amgylchiadau. Fodd bynnag, y polisi gorau yw i chi hawlio eich Budd-dal Treth Tai yn brydlon o dan pob un amgylchiad.





