Gwybodaeth ystadegol a chyfrifiad

Ffeithiau a Ffigurau Blaenau Gwent

Lleoliad

Mae Blaenau Gwent wedi ei leoli yn ne ddwyrain Cymru ac yr oedd ynghynt yn rhan o Sir Gwent. Mae tua 20 milltir i’r de o ddinas Casnewydd, 30 milltir i dde orllewin dinas Caerdydd ac yn union i’r gogledd mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Daearyddiaeth

Blaenau Gwent yw’r lleiaf o awdurdodau lleol Cymru, rhyw 10,900 o  hectarau. Ym Mlaenau Gwent mae yna tri chwm nodweddiadol sydd yn cefnogi'r pum prif dref neu ddosbarthiad o anheddau, sef Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy, Nantyglo a Blaenau, a Thredegar.

 

Demograffeg

Mae Blaenau Gwent wedi tystio colled poblogaeth gadarn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod yna 68,400 o bobl yn byw yn yr ardal (Amcangyfrif Canol Blwyddyn 2005). Mae hyn yn cymharu gyda 70,064 yn 2001 a 72,254 yn 1991 (Cyfrifiadau).
    
    

Diwylliant ac Ethnigrwydd

Mae 92% o’r bobl sydd yn byw ym Mlaenau Gwent wedi eu geni yng Nghymru, sef y ganran uchaf o unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Mae llai na 1% o’r bobl sydd yn byw yn yr ardal leol wedi eu geni y tu allan i’r DU neu Weriniaeth Iwerddon. (Cyfrifiad 2001)

Mae poblogaeth ethnig Blaenau Gwent yn gymharol fychan, gan ei fod yn gwneud i fyny yn llai nag 1% o’r boblogaeth (Cymru 2%). Y grwp ethnig mwyaf ym Mlaenau Gwent yw’r grwp Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (Cyfrifiad 2001).

 

Adnabyddiaeth Gymreig ac Iaith

Mae 12% o’r bobl sydd yn byw ym Mlaenau Gwent yn dewis adnabod eu hunain yn bobl Gymreig yn hytrach na Phrydeinig. Mae hyn yn is na lefel Cymru gyfan a oedd yn 14% (Cyfrifiad 2001).

Mae’r defnydd o iaith Gymraeg ym Mlaenau Gwent yn gymharol isel, wrth gymharu gyda Chymru yn gyfan ac awdurdodau lleol unigol eraill. Datganodd 13% o bobl bod ganddynt sgil neu sgiliau yn yr iaith. Mae gwaith dadansoddol pellach gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn awgrymu bod 9% o bobl Blaenau Gwent yn medru siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).
  
   

Tai

Mae yna dros 31,000 o lefydd tai ym Mlaenau Gwent, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dai teras (55%). Mae 63% ohonynt yn eiddo i’w preswylwyr, gyda’r gweddill yn cael eu rhenti o’r awdurdod lleol (24%), landlordiaid preifat (6%), cymdeithasau tai nei landlordiaid cymdeithasol (5%), ac eraill (2%) [Cyfrifiad 2001].

Mae prisiau tai yn yr ardal leol yn dipyn yn llai na Chymru ar gyfartaledd, gan wneud Blaenau Gwent yn un o’r ardaloedd mwyaf fforddiadwy i brynu ty. Roedd pris cyfartaledd ym Mlaenau Gwent yn ail chwarter 2006 yn £88,000, sydd yn is na chyfartaledd Cymru a oedd yn rhyw £155,000 am yr un cyfnod. [Gofrestrfa Tir, Data Pris Annedd Preswyl, Gorffennaf - Medi 2006].


Marchnad Lafur

Mae dros ddwy ran o dair o bobl o oedran gwaith yn economaidd weithredol ym Mlaenau Gwent (71%) i’w chymharu gyda thri chwarter ar draws Cymru’n gyfan gwbl. Mae personau gwrywaidd (76%) yn fwy gweithredol na phersonau benywaidd (65%), fel y mae drwy Gymru (gwrywaidd 79%, benywaidd 71%) [Arolygiad Poblogaeth Flynyddol].

Mae llai na dwy ran o dair o bobl sydd mewn oedran gwaith ym Mlaenau Gwent wedi eu cyflogi (64.7%), sydd yn gyfystyr â 27,100o bobl. Mae’r gyfradd cyflogaeth yma yn is na’r cyfartaledd Cymru sydd yn 71% [Arolygiad Poblogaeth Flynyddol].

Mae diweithdra yn 8.5% ym Mlaenau Gwent, sydd yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o 5.1% [Arolygiad Poblogaeth Flynyddol].

Mae cyfraddau gweithgaredd economaidd yn 29%, sydd yn uwch na chyfartaledd Cymru o 25%. [Arolygiad Poblogaeth Flynyddol].

Mae ffigurau enillion 2006 yn dangos bod cyfartaledd canolrif gros cyflog wythnosol yn £380.90 ar gyfer pobl sydd yn gweithio yn ardal, i’w chymharu gyda £402.50 i Gymru ar y cyfan. [arolygiad Blynyddol o ddadansoddiad y gweithle am Oriau ac Enillion].