Pobl ifanc Blaenau Gwent yn cael mynediad fel y mynnant i Ganolfan Chwaraeon Glynebwy am ddim ond £1
Bydd Canolfan Chwaraeon Glynebwy yn agor ei drysau i bobl ifanc yn unig ddydd Sadwrn, 13 Awst 2011.
Bydd y Noswaith Agored i Ieuenctid - a fu’n boblogaidd iawn gyda phobl ifanc mewn blynyddoedd blaenorol - yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddefnyddio’r ganolfan chwaraeon fel y mynnant yn cynnwys cyfleusterau megis campfa neu nofio ar gost o ddim ond £1 am y noswaith gyfan.
Yn ogystal â hyn bydd gweithgareddau eraill ar gael yn cynnwys gweithdai DJ a sesiynau maldod, oll wedi’u trefnu gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Blaenau Gwent.
Mae’r noswaith yn rhedeg rhwng 6pm a 9.15pm ac mae ar agor ar gyfer rhai 11-25 oed.
Mae Hwyl Haf yn barod ac yn aros amdanoch ym Mlaenau Gwent yn ystod mis Awst eleni ac mae gan y Cyngor amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer pobl o bob oedran.
I gael mwy o wybodaeth ar Agored i Ieuenctid neu i drefnu lle, cysylltwch â Kelly Howells ar 01495 355311 neu anfon e-bost ati i kelly.howells@blaenau-gwent.gov.uk
Cefnogwch eich sinema leol a gweld y ffilmiau diweddaraf ym Mrynmawr yn ystod yr haf
Gall teulu o bedwar ymweld â’r sinema ym Mlaenau Gwent a chael diodydd a phopcorn yn ystod yr haf – a dal i fod â newid o £20.
Mae gan Sinema Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr raglen lawn o ffilmiau teulu ar gael i gadw plant yn hapus yn ystod yr haf.
Mae’r uwcharwr diweddaraf i’w weld yno ar hyn o bryd – Captain America: The First Avenger.
Y sinema yw’r sinema hynaf yng Nghymru i ddangos yn ddi-dor, gyda’r adeilad rhestredig Gradd 2 wedi agor yn gyntaf yn 1844.
Dyma’r ffilmiau y medrwch eu mwynhau ym Mrynmawr yn ystod yr haf eleni:
0 Dydd Gwener 29 Gorffennaf – Dydd Iau 11 Awst
4.30pm a 7pm
Captain America: The First Avenger (Tystysgrif 12A)
0 Dydd Gwener 12 Awst – Dydd Iau 18 Awst
7pm
Cars 2 (Tystysgrif U)
0 Dydd Gwener 19 Awst – Dydd Iau 1 Medi
7pm
Cowboys & Aliens (Tystysgrif 12A)
Amser chwarae ym mharciau Blaenau Gwent yn ystod yr haf
Paratowch eich hunan, mae’n mynd i fod yn anniben - yn Nyddiau Chwarae Haf am ddim Cyngor Blaenau Gwent.
Bydd amrywiaeth enfawr o gyfleoedd chwarae ar gael yn y tri diwrnod chwarae drwy gydol mis Awst sydd wedi eu hanelu at blant a phobl ifanc hyd at 16 oed. Mae’n rhaid i riant neu warcheidwad fod yn goruchwylio plant.
Mae’r gweithgareddau’n cynnwys adeiladu cuddfan, arwyddion tân, karaoke, chwarae anniben, modelu sbwriel, Gemau Stryd, peintio wynebau, Zorbs, wal ddringo, peintio sgrîn a llithrenni dwr.
Mae Hwyl Haf yn barod ac yn aros amdanoch ym Mlaenau Gwent ym mis Awst hwn ac mae gan y Cyngor nifer fawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer pobl o bob oedran.
Cynhelir digwyddiadau i’r teulu Diwrnod Cenedlaethol Chwarae ar:
0 Mercher, 3 Awst – Parc Bedwellte, Tredegar, 11am i 4pm
0 Iau, 18 Awst - Gardd yr Wyl, Parc yr Wyl, Glynebwy, 10am i 4pm
0 Mercher, 31 Awst –Parc Nant-y-Waun, Brynmawr, 11am i 4pmDewch i ymuno yn Hwyl Haf ym Mlaenau Gwent
Dewch i ymuno yn Hwyl Haf ym Mlaenau Gwent
Dewch a gwên i’ch wyneb yn ystod y gwyliau gyda gweithgareddau gwych ar gyfer pobl ifanc ym Mlaenau Gwent yn ystod yr haf eleni.
Bu Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn brysur yn trefnu amrywiaeth o weithgareddau – dau ohonynt yn cynnwys Gweithdai Celf Trefol a sesiynau galw heibio i bobl ifanc.
Cynhelir y gweithdai celf bob dydd Gwener drwy gydol mis Awst yn Sefydliad Glynebwy rhwng 12pm a 6pm. Bydd tiwtoriaid proffesiynol yn cynnig amrywiaeth o weithdai DJ a graffiti yn addas ar gyfer pob gallu.
Bydd y sesiynau galw heibio i bobl ifanc yng nghlybiau ieuenctid Brynteg (Glynebwy) ac Abertyleri a byddant yn rhoi cyfle i bobl ifanc sgwrsio gydag aelodau o dîm Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, chwarae gemau Wii a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyl megis gweithdai bwyd y byd lle medrwch baratoi a blasu bwydydd ecsotig o bob rhan o’r byd.
Cynhelir y sesiynau yng Nghlwb Ieuenctid Abertyleri ar ddyddiau Mercher rhwng 1pm a 5pm a Chlwb Ieuenctid Brynteg ar ddyddiau Iau rhwng 1pm a 5pm.
Mae’r holl weithgareddau ar gael i rai 11-25 oed ac yn rhad ac am ddim.
Mae Hwyl Haf yn barod ac yn aros amdanoch ym Mlaenau Gwent ym mis Awst ac mae gan y Cyngor ddewis eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ar gael ar gyfer pobl o bob oedran.
I gael mwy o wybodaeth ar y sesiynau neu i archebu lle cysylltwch â Kelly Howells ar 01495 355311 neu e-bost kelly.howells@blaenau-gwent.gov.uk.
Nofio am ddim poblogaidd yn ôl yng nghanolfannau chwaraeon Cyngor Blaenau Gwent
Gall plant a phobl ifanc fynd i’r dwr am ddim eto wrth i Gyngor Blaenau Gwent gynnig nofio am ddim ym mhob un o’n pedair canolfan chwaraeon dros gyfnod gwyliau’r haf.
Bydd nofio am ddim ar gael ar gyfer unrhyw un 16 oed ac iau hyd ddydd Sul 4 Medi ym mhyllau nofio Glynebwy, Nantyglo, Tredegar ac Abertyleri yn ystod amserau nofio cyhoeddus.
Mae nofio am ddim hefyd ar gael i unrhyw un 60 oed a throsodd yn ystod sesiynau cyhoeddus, menywod (menywod dros 60 oed) ac oedolion yn unig.
Mae Hwyl Haf yn barod ac yn aros amdanoch ym Mlaenau Gwent fis Awst eleni gan fod gan y Cyngor lu o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous ar y gweill ar gyfer pobl o bob oedran.
Cysylltwch â’ch canolfan chwaraeon leol i gael amserau’r holl sesiynau nofio.
Abertyleri - 01495 212206
Glynebwy - 01495 303766
Nantyglo - 01495 310785
Tredegar - 01495 723554




