Mae’r Cyngor yn cydnabod y gall rhai pobl ddioddef anffafriaeth a gallant fod o dan anfantais am nifer o resymau. Mae gan Gyngor Blaenau Gwent oblygiad cyfreithiol a moesol i adlewyrchu anghenion y gymuned amrywiol drwy ein darpariaeth o wasanaeth ac fel cyflogwr.
Mae’r Cyngor felly wedi mabwysiadu Polisi Cydraddoldeb Corfforaethol, sydd yn gosod allan ein hymroddiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau ac yn sicrhau bod y gwasanaethau i ni yn ei gynnig ar gael i bawb. Mae ein hymrwymiad am adnabod a gwerthfawrogi amrywiaeth a sicrhau bod pob unigolyn â hawl i urddas a pharch.
Drwy geisio i fynd i’r afael gyda’r anghydraddoldeb yn y modd i ni yn gweithredu polisïau ac yn darparu gwasanaethau mae’r Cyngor wedi mabwysiadu'r Safon Cydraddoldeb Generig ar gyfer Llywodraeth Leol. Roedd y Safon wedi ei ddatblygu er mwyn rhoi teclyn cynhwysfawr i alluogi Awdurdodau Lleol i brif ffrydio a mainc nodi eu hagwedd i arferion cydraddoldeb yn y ddarpariaeth o wasanaeth a chyflogaeth. Mae’n darparu modd cyffredin ar gyfer delio gyda Hil, yr Iaith Gymraeg, Cenedl, Anabledd, Tueddfryd Rhywiol, Oedran, Cred a Chrefydd.
Datblygwyd y Safon gan Sefydliad y Cyflogwyr ar gyfer Llywodraeth Leol mewn cydweithrediad gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, comisiwn Cyfleoedd Cyfartal, Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r Comisiwn Hawliau Anabl ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y Safon yn eich cynorthwyo ni i wella fel Awdurdod Lleol drwy brif ffrydio cydraddoldeb drwy’r Awdurdod a sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth wrth galon popeth i ni yn ei wneud.
Swyddog Polisi - Cydraddoldeb
Swyddfeydd Bwrdeisiol
Y Ganolfan Dinesig
Glynebwy
Gwent
NP23 6XB
Ffon : (01495) 355108