Adolygu Dosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleideisio

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1973

Adrannau 18A, 18B a 18C

FE’CH HYSBYSIR drwy hyn fod Bwrdeisdref Blaenau Gwent yn dechrau adolygiad o Ddosbarthiadau Etholiadol, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio o fewn ardal yr awdurdod lleol.

Mae’r Adolygiad yn gwahodd sylwadau gan etholwyr o fewn yr ardal uchod parthed lleoliad gorsafoedd pleidleisio.

Byddai’r Cyngor hefyd yn croesawu sylwadau gan unrhyw gorff neu berson gydag arbenigedd mewn mynediad ar gyfer pobl gydag anableddau, neu sylwadau ar gynigion y Cyngor, neu unrhyw fater arall yn gysylltiedig â’r adolygiad. Dylai unrhyw gorff neu bersonau sy’n gwneud sylwadau o’r fath nodi lleoedd eraill y medrid eu defnyddio fel Mannau Pleidleisio neu Orsafoedd Pleidleisio.

Rhaid gwneud sylwadau mewn ysgrifen at y Prif Swyddog Cyfreithiol, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy neu drwy e-bost i Angela.OLeary@blaenau-gwent.gov.uk.  Rhaid derbyn yr holl sylwadau erbyn 21 Tachwedd 2010.

                                             
DYLAN JOHN,
Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol a Chefnogaeth Gorfforaethol a Swyddog Cofrestru Etholiadol