Helpu i lunio'r dyfodol: 27 Mawrth 2011
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cynnal cyfrifiad i ddarganfod mwy am y bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr ac am gyfansoddiad ardaloedd lleol.
Bydd y cyfrifiad nesaf yn cael ei gynnal ar 27 Mawrth 2011, pan fydd yr ONS yn anfon holiaduron allan i ryw 25 miliwn o aelwydydd eu llenwi.
Bydd y cyfrifiad yn gofyn am waith, iechyd, hunaniaeth genedlaethol, dinasyddiaeth, cefndir ethnig, addysg, ail gartrefi, iaith, crefydd, statws priodasol ac ati.
Pam ddylai hyn fod yn bwysig i ni?
Fel pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr, mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn dibynnu ar ystadegau poblogaeth y cyfrifiad i adnabod anghenion lleol am wasanaethau cyhoeddus. Mae'r arian a ddaw oddi wrth y llywodraeth Ganolog ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cyfateb yn uniongyrchol i'r nifer a'r math o bobl sy'n byw yn ein hardal. Felly hyd yn oed pe byddai'r cyfrifiad methu ond ychydig o aelwydydd gallai hyn wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl. Mae angen i'r cyfrifiad gynnwys pawb ymhob man - dyna pam fod yn rhaid i bawb gymryd rhan.
Beth fydd angen i chi wneud?
Mae'n syml. Pan ddaw'r amser, bydd angen i chi ateb dim ond ychydig o gwestiynau amdanoch chi eich hun a'r bobl sy'n byw ar yr aelwyd gyda chi ar ddiwrnod y cyfrifiad, 27 Mawrth 2011. Bydd popeth a ddywedwch wrth y cyfrifiad yn gwbl gyfrinachol, ac ni ddefnyddir y wybodaeth ond at ddiben cynhyrchu ystadegau. Ni fydd yr ONS yn rhannu'ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw adran arall o'r llywodraeth nac unrhyw sefydliad arall.
Byddwch yn gallu gwneud hyn ar lein, neu trwy'r post, ond mae'n rhaid i chi ei wneud e.
Mae angen i bawb gymryd rhan yn y cyfrifiad er mwyn helpu i lunio'r dyfodol - a dyma fydd eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://2011.cyfrifiad.gov.uk/




