Hanes
Mae’r Gymraeg yn un o ieithoedd byw hynaf Ewrop ac yn un o 239 o ieithoedd a siaredir yn Ewrop ac yn un o’r 18 a siaredir yn y Deyrnas Unedig (Ffynhonnell - Ethnologue.com). Mae’n aelod o’r gangen Geltaidd o ieithoedd Indo-Ewropeaidd sydd hefyd yn cynnwys Gwyddeleg, Albaneg, Gaeleg, Mynaweg, Cernyweg a Llydaweg ac yn hyn na’r Anglo-Sacsonaidd neu Hen Saesneg ar dir mawr Prydain. Yn 2007, roedd nifer isel ond sy’n cynyddu’n gyson o siaradwyr Cymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru.
Cynllun Iaith Gymraeg
Derbyniodd cynllun diwygiedig y Cyngor gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan Adran 14(1) Deddf yr Iaith Gymraeg ar 13 Ionawr 2006.
Datganiad
Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar sail gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus.
- Mae’n rhoi hawl i’r cyhoedd ddewis pa iaith i’w defnyddio yn eu trafodion gyda’r Cyngor.
- Mae’n cydnabod y gall aelodau o’r cyhoedd fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith.
- Mae’n cydnabod fod galluogi’r cyhoedd i ddefnyddio eu dewis iaith yn fater o arfer da, nid consesiwn.
- Mae’r cynllun hwn yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd yng Nghymru.
- Mae’r cynllun hwn yn cyfeirio’n benodol at y Gymraeg. Daw unrhyw ieithoedd eraill o fewn cwmpas Cynllun Cydraddoldeb Hiliol y Cyngor.
Cafodd Cynllun Iaith Gymraeg gyntaf Cyngor Bwrdeisdref Blaenau Gwent ei gytuno gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 23 Ionawr 1998. Ei nod oedd darparu gwasanaeth Cymraeg sy’n diwallu anghenion pobl sy’n siarad Cymraeg ym Mlaenau Gwent, p’un ai’n rhugl neu’n un o’r cannoedd lawer o oedolion a phobl ifanc sy’n dysgu’r Gymraeg yn ein Canolfannau Addysg Cymunedol ac ysgolion. Bu’n newid sylweddol yn arferion gwaith y Cyngor i sicrhau y caiff y Gymraeg ei phrif ffrydio o fewn pob agwedd o ddarpariaeth gwasanaeth. Bu hyn yn her sylweddol i Aelodau a Swyddogion a bydd eu hymrwymiad a phroffesiynoldeb parhaus yn ffactor hollbwysig wrth weithredu’r Cynllun yn y blynyddoedd i ddod.
Dangosodd Cyfrifiad 2003 y twf hynod yn yr iaith ardal hon yn y 10 mlynedd ddiwethaf. Yn 1991 dim ond 1,696 neu 2.4% o’r boblogaeth 3 oed a throsodd oedd yn siarad Cymraeg. Roedd hyn wedi cynyddu i 6,241 neu 9.5% erbyn 2001. Hoffem feddwl ein bod drwy ein gwasanaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes, Canolfannau Addysg Gymunedol a darpariaeth staff “mewnol” mewn rhyw fodd wedi helpu gyda’r cynnydd sylweddol hwn yn nifer siaradwyr Cymraeg ym Mlaenau Gwent yn y deng mlynedd diwethaf. Bwriadwn i’r cynllun a atodir adeiladu ar y gwaith a gychwynnwyd yn 1998 i ymwreiddio’r Gymraeg yn gadarnach yng ngwasanaethau craidd y Cyngor a gwella cyflenwi gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg dros y 3 blynedd nesaf.
Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Menter Iaith newydd Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy (http://www.menterbgtm.org/) ar nifer o brosiectau i godi ymwybyddiaeth am faterion iaith Gymraeg a hyrwyddo’r Cyngor a gwasanaethau eraill.






