Rhaid i’r Cyngor ystyried os yw ei bolisïau a gweithdrefnau’n parchu sensitifrwydd cyfeiriadedd rhywiol unigolyn a phwysigrwydd cadw lefel uchel o gyfrinachedd. Dylai pobl o bob cyfeiriadedd rhywiol deimlo eu bod yn cael eu croesawu, yn ddiogel a’u bod yn cael eu parchu wrth ddelio gyda’r cyngor, p’un ai fel cyflogai neu gwsmer cyngor.
Aflonyddu yn y Gweithlu
Dylai unrhyw gyflogeion a all fod yn profi aflonyddu homoffobig gan gydweithwyr ac nad ydynt wedi “dod allan” eto ac nad ydynt yn dymuno “dod allan” gysylltu â Gwasanaeth Cwnsela Cyfrinachol 24 awr yr Awdurdod Care First. Ffoniwch 0800 174319 i gael sgwrs gyda Chynghorydd wedi’i hyfforddi’n llawn
Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
Ers 1 Rhagfyr 2003, bu’n anghyfreithlon i gyflogydd wahaniaethu yn erbyn gweithwyr oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae’r Rheoliadau, sy’n cynnwys materion cyflogaeth ond nid cyflwyno gwasanaeth, hefyd yn cynnwys darparwyr hyfforddiant galwedigaethol.
Mae’r Rheoliadau’n cynnwys: gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol, aflonyddu ac erledigaeth ac yn ymestyn tu hwnt i gyfnod cyflogaeth i gynnwys er enghraifft geisiadau ar gyfer swyddi a thystebau llafar neu ysgrifenedig.
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007
Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn mynd ymhellach na Rheoliadau 2003 gan ei bod yn gwneud gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn anghyfreithlon yn y meysydd dilynol:
- Darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
- Gwaredu â safleoedd a rheoli safleoedd,
- Gweithredu swyddogaethau cyhoeddus
Partneriaethau Sifil
Ers 5 Rhagfyr 2005, gall partneriaid un rhyw gofrestru eu hunain fel partneriaid sifil a chael yr holl hawliau a chyfrifoldeb a gaiff cyplau dau ryw pan fyddant yn priodi. Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn rhoi'r un hawliau perthynas agosaf, hawliau treth ac etifeddiaeth, hawliau pensiwn a hawliau yng nghyswllt plant y rhiant arall i bartneriaid un rhyw.
Medrir trefnu seremoni sifil unrhyw le sydd â thrwydded ar gyfer gwasanaethau sifil. Cysylltwch â Swyddfa Gofrestru’r Cyngor os hoffech wybodaeth bellach am drefnu seremoni:-





