Deddf Cydraddoldeb 2006 – Crefydd neu Gredo
Roedd Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth Rhagfyr 2003 yn cynnig diogeliad yn erbyn gwahaniaethu yn y gweithle ar sail crefydd neu gred.
Gydag ychwanegiad pwerau newydd a roddir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, daeth yn awr yn anghyfreithlon (gyda rhai eithriadau) i wahaniaethu ar sail crefydd neu gredo yn y meysydd dilynol:
- Darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau
- Gwaredu a rheoli adeiladau
- Addysg
- Gweithredu swyddogaethau cyhoeddus.
Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol bod y Rheoliadau hyn yn ymestyn tu hwnt i’r crefyddau a mathau ffydd mwy adnabyddus i gynnwys credoau fel Paganiaeth a Dyneiddiaeth. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cynnwys rhai heb gredoau crefyddol neu debyg.




