Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000
Daeth y gofyniad i gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb Hiliol yn sgil marwolaeth drasig Stephen Lawrence yn 1993. Arweiniodd hynny at y newid sylweddol cyntaf i ddeddfwriaeth cysylltiadau hiliol Prydain am bron 25 mlynedd wrth i Jack Straw, Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, sefydlu Ymchwiliad Cyhoeddus yn 1999 dan gadeiryddiaeth Syr William MacPherson o Cluny yr arweiniodd ei ganfyddiadau at Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000.
Yn gryno, mae’r ddeddfwriaeth hon yn gwneud gwahaniaethu ar sail hil yn anghyfreithlon ac yn dodi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i fod ag ymagwedd ragweithiol at gydraddoldeb hiliol a chanfod ffyrdd ymarferol i symud yr agenda ymlaen.
Blaenau Gwent has a very homogenous, predominantly Welsh, White, population of approximately 69,000.
Mae gan Blaenau Gwent boblogaeth bennaf Gymreig a Gwyn homogenaidd iawn o tua 69,000.Cafodd 99.2% o boblogaeth Blaenau Gwent eu geni yn y Deyrnas Unedig (gyda 92% ohonynt wedi’u geni yng Nghymru), o gymharu â chyfartaledd Cymru o 97.9% a chyfartaledd Lloegr a Chymru o 91.1%.
Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd grwpiau lleiafrif ethnig heb fod yn wyn yn llai na 1% o boblogaeth Blaenau Gwent (ychydig dan 600 o bobl, yn bennaf o darddiad Asiaidd neu Gymysg, gyda rhai teuluoedd Tsieineaidd a Du) o gymharu â chyfartaledd Cymru o dros 2%.
Bu cynnydd amlwg yn y ffigurau hyn yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf oherwydd gweithwyr symudol a ddaeth yma o Wlad Pwyl, Portiwgal, Slofacia ac ati sy’n dod â’u problemau unigryw eu hunain yn cynnwys anawsterau ieithyddol, telerau ac amodau gwaith a lefelau cyflog isel.
Er mai nifer cymharol isel o bobl lleiafrif ethnig sy’n byw ym Mlaenau Gwent, mae’n rhaid i’r Cyngor weithio i sicrhau eu bod yn gwybod beth yw eu hanghenion ac yn gweithredu arnynt.
Sipsiwn a Theithwyr
Mae gan Flaenau Gwent safle parhaol i Deithwyr yng Nghwmcrachen, Nantyglo. Defnyddiwyd yr ardal yn gyntaf ar gyfer teithwyr yn y 1920au a’r 1930au a chafodd ei sefydlu’n iawn ddiwedd y 1950au gan Gyngor Sir Gwent gan rannu cyfleusterau cyffredin. Cafodd ei ailddatblygu gyda chymorth grant gan y Swyddfa Gymreig yn 1995.
Mae Cwmcrachen yn cynnwys 22 o safleoedd parhaol gyda chyfleusterau dwr, trydan a thoiled unigol ac mae rhestr aros am leoedd ar hyn o bryd. Caiff y safle ei ystyried fel un llwyddiannus iawn a dengys ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gwasanaeth o ansawdd i’r gymuned Teithwyr.
Mae cynllun £500,000 ar gyfer ail-ddatblygu’r safle yn y dyfodol agos, a ran-ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent. Hefyd yn yr arfaeth mae cyfres o ganllawiau ac arfer da a ddisgwylir ar gyfer gwersyllfannau heb awdurdod gan Sipsiwn/Teithwyr yn y Fwrdeisdref Sirol a Chanllawiau Cymydog Da.
Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Chyngor Cydraddoldeb Hiliol y Cyngor (Valrec)
O 1 Ebrill 2007 ymrwymodd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent i Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda Valrec gyda’r bwriad o hyrwyddo cydraddoldeb hiliol ym mhob rhan o’r Fwrdeisdref Sirol. Y newyddion da yw y cytunwyd ar gyfer y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer 2008-2009 ac y gall y bartneriaeth barhau i ffynnu.
Fforwm Amrywiaeth Aml-asiantaeth Blaenau Gwent
Sefydlwyd Fforwm Amrywiaeth Aml-asiantaeth ym mis Ebrill 2007 gan bartneriaeth o asiantaethau statudol ac anstatudol, sydd ag ymroddiad i fynd i’r afael â’r heriau a gyflwynir gan ein cymunedau cynyddol amrywiol. Y cyrff cysylltiedig yw:
- Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
- Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent
- VALREC
- Heddlu Gwent
- GAVO
Fforwm Amrywiaeth Aml-asiantaeth – Datganiad Diben
- Pob asiantaeth bartner yn annog amgylchedd sy’n cydnabod ac yn parchu amrywiaeth, yn herio gwahaniaethu ac ymddygiad ac iaith amhriodol, gan felly gynyddu hyder y dioddefwr neu unrhyw berson arall i roi adroddiad am ddigwyddiad hiliol.
- Pob asiantaeth yn rhoi system effeithlon a hygyrch i gofnodi, ymchwilio a monitro’n gywir bob digwyddiad a adroddir, a’r cyfle ar gyfer adrodd o bell.
- Pob asiantaeth yn rhannu gwybodaeth berthnasol i gynorthwyo’r broses fonitro drwy brotocol a gytunwyd, tra’n sicrhau cyfrinachedd.
- Pob asiantaeth yn cymryd rhan weithgar i gefnogi dioddefwyr drwy ymateb rhyngasiantaeth i ymosodiadau hiliol ac erledigaeth a adroddir.
- Pob asiantaeth yn sicrhau fod proses yn bodoli i ddynodi ac addasu hyfforddiant staff i adlewyrchu anghenion ethnig a diwylliannol cymuned.
- Pob asiantaeth yn cynyddu ymwybyddiaeth a darparu hyfforddiant ar gyfer staff presennol a staff newydd ar y gweithdrefnau a fabwysiadwyd.
- Y Fforwm yn marchnata ac yn cyhoeddi gwybodaeth briodol ar faterion hil ac amrywiaeth mewn ieithoedd a fformatau sy’n adlewyrchu anghenion y gymuned. Yr wybodaeth hon i fod ar gael yn eang.
- Y bartneriaeth yn parhau’n ymatebol i faterion cenedlaethol a lleol a all effeithio ar effeithlonrwydd y Fforwm.
Mae’r Fforwm yn cydnabod y nifer cynyddol o weithwyr mudol a symudodd i’r ardal dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a’r materion a godir gan hynny. Fel y nodwyd yn gynharach yn yr Adroddiad, cynhaliodd y Fforwm ddigwyddiad llwyddiannus iawn ar weithwyr mudol ar 11 Mai 2007 i drafod y materion hyn a chodi ymwybyddiaeth ymysg y rhai oedd yn bresennol. Yn fwy diweddar bu problemau am drefniadaeth a gweinyddiaeth y Fforwm, ond rhagwelir y caiff y rhain eu datrys yn y dyfodol agos a galluogi’r Fforwm i weithredu’n effeithlon unwaith eto.




