Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth a gynhyrchwyd yn y Deyrnas Unedig. Daeth i rym ar 2 Hydref gyda’r nod o roi “effaith bellach” yng Nghyfraith y DU i’r hawliau a gynhwysir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae’r Ddeddf yn galluogi llysoedd y Deyrnas Unedig i ddelio gyda thoriadau posibl hawliau’r Confensiwn.
Mae gan bob corff cyhoeddus oblygiad i sicrhau fod parch at hawliau dynol unigolion yn ganolog i’w darpariaeth gwasanaethau. Mae’r Ddeddf yn cynnwys pob agwedd o weithgareddau corff cyhoeddus yn cynnwys:-
- creu polisïau, gweithdrefnau a swyddogaethau
- gweithredu polisi
- materion staffio a hawliau dynol
- y broses benderfynu
- gweithdrefnau gweinyddol
- ymgynghoriad neu ymgyfraniad gydag aelodau o’r cyhoedd




