Rhywedd

Deddf Cydraddoldeb 2006 – Dyletswydd Cydraddoldeb Rhywedd

Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn diwygio Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 a Deddf Cyflogau Cyfartal 1970 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Gwahaniaethu ar sail Rhyw 2005), ac yn dodi dyletswydd statudol ar awdurdodau cyhoeddus wrth gynnal eu dyletswyddau cyhoeddus i roi’r ystyriaeth ddyladwy i’r angen i:

    

  • Dileu gwahaniaethu a harasiaeth anghyfreithlon
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod

Gelwir y gofynion uchod yn ddyletswydd gyffredinol ac mae hyn yn dodi cyfrifoldeb ragweithiol ar bob corff cyhoeddus i sicrhau y caiff eu gwasanaethau, arferion a pholisïau eu datblygu gydag anghenion gwahanol dynion a menywod dan sylw. Bydd hyn yn arwain at gymdeithas fwy cynhwysol gyda gwasanaethau cyfoes ansawdd uchel - a dargedwyd i ddiwallu anghenion penodol dynion a menywod.

Nid yw’r awdurdod wedi ysgrifennu Cynllun Cydraddoldeb Rhywedd gan nad oedd Llywodraeth y Cynulliad yn derbyn bod y Ddyletswydd yn ddigon cadarn. Serch hynny bydd y Ddyletswydd Rhywedd yn rhan gyfannol o Gynllun Cydraddoldeb Sengl yr Awdurdod  a ddatblygir yn 2009. Er nad oes ganddo Gynllun Cydraddoldeb Rhywedd ar waith, mae’r Awdurdod wedi arddangos ei ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd drwy gynnal Archwiliad Gwerthuso Swyddi a Chyflog Cyfartal llawn i sicrhau cydraddoldeb rhwng y dynion a’r menywod sy’n gweithio iddo.

Roedd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 (fel y’i newidiwyd) yn gwneud gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn y meysydd dilynol:    
  

  • Cyflogaeth a mynediad i hyfforddiant
  • Addysg
  • Darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau i aelodau’r cyhoedd.

Roedd y Ddeddf yn nodi  tri math o wahaniaethu:
   

  • Gwahaniaethu uniongyrchol, sy’n digwydd pan gaiff un person ei drin yn llai ffafriol ar sail eu rhyw.
  • Gwahaniaethu anuniongyrchol, sy’n digwydd pan gaiff gofyniad neu amod, na fedrir ei gyfiawnhau ar sail wrthrychol, ei weithredu yn yr un modd ar gyfer dynion a menywod ond sydd â’r effaith ymarferol o roi cyfran uwch o un rhyw dan anfantais.
  • Erledigaeth sy’n digwydd pan fo cyflogydd yn trin rhywun a gyflogir yn llai ffafriol fel canlyniad i godi cwyn am wahaniaethu ar sail rhyw neu briodas neu gynorthwyo person arall i gwyno.