Anabledd

“Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn ymroddedig i hyrwyddo mynediad i’r anabl ac i ddarparu cyfle cyfartal ar gyfer pobl anabl yn y gwasanaethau y mae’n eu darparu”.

Hyrwyddo cyfle cyfartal yw nod bennaf y Ddyletswydd Cydraddoldeb Anabledd. I gyflawni hyn, mae dyletswyddau penodol sy’n weithredol ar awdurdodau cyhoeddus yn Lloegr a Chymru yn sicrhau y rhoddir sylw priodol i anghenion pobl anabl wrth gynllunio, cyflenwi neu fonitro’r swyddogaethau a’r gwasanaethau a ddarparant. Mae’r ddyletswydd gyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus fabwysiadu ymagwedd ragweithiol, gan roi cydraddoldeb anabledd ym mhrif ffrwd pob penderfyniad a chyflenwi gwasanaeth.

Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Anabledd a’i Gynllun Gweithredu cysylltiedig yn dangos ymrwymiad Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, drwy ei rolau a chyfrifoldebau wrth gyflenwi gwasanaethau ar gyfer pobl leol ac i edrych am ddulliau ar gyfer sicrhau fod pobl anabl Blaenau Gwent yn cael cyfle cyfartal.
     
    

  • Fel y nodwyd uchod, cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Mr Robin Morrison, y Prif Weithredydd, fydd yr Hyrwyddwr Cydraddoldeb ar gyfer yr Awdurdod cyfan.
  • Mae’r Cynghorydd Don Wilcox yn gweithredu fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb Aelodau ar gyfer gweithrediad dydd-i-ddydd y sefydliad. Mae’r Cynghorydd Jennifer Morgan a’r Cynghorydd Haydn Trollope hefyd ill dau yn aelodau o’r Fforwm Mynediad i Bawb.
  • Mae gan y Cyngor Swyddog Cydraddoldeb a hefyd Swyddog Mynediad. Eu swyddi hwy yw cynghori a llywio ar gydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth ac arwain at ddefnydd ymarferol cyflenwi gwasanaeth a mynediad i adeiladau.
  • Cafodd prentis ddehonglydd gyda phrosiect BSL (Iaith Arwyddion Prydeinig), a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, ei leoli gyda’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd Lleol o fis Tachwedd 2007 i fis Mehefin 2008 a gwnaeth argraff fawr ar y gymuned fyddar. Mae fforwm i’r byddar yn cael ei sefydlu ar hyn o bryd.