Gweithrediad y Strategaeth Pobl Hyn o fewn Blaenau Gwent.
Lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Strategaeth Pobl Hyn yng Nghymru yn 2003. Mae’r Strategaeth yn cydnabod rôl hanfodol pobl hyn mewn cymdeithas ac yn cynnig cyfeiriad clir i helpu pawb i wynebu gwahaniaethu ar sail oedran a gwahaniaethu arall yn erbyn pobl hyn, mynd i’r afael â stereoteipiau henoed a gwella ymrwymiad gyda phobl hyn a’u cyfranogiad yn ein cymunedau.
Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar themâu allweddol:
- Gwerthfawrogi Pobl Hyn – hyrwyddo delweddau cadarnhaol o heneiddio a rhoi mwy o lais i bobl hyn mewn cymdeithas.
- Newid Cymdeithas – hyrwyddo a datblygu gallu pobl hyn i barhau i weithio a dysgu cyhyd â’u bod eisiau ac i wneud cyfraniad gweithgar unwaith y maent wedi ymddeol..
- Byw Bywydau Hirach ac Iachach - hyrwyddo iechyd a lles pobl hyn.
- Ymdopi gyda dibyniaeth gynyddol: Tai, Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau safon uchel, byw’n annibynnol mewn amgylcheddau addas a diogel a gwelliannau mewn ymatebolrwydd gwasanaeth, a
- Gweithredu - gweld y Strategaeth Pobl Hyn fel catalydd i sicrhau newid, arloesi a gwelliant mewn gwasanaethau ar gyfer pobl hyn a chaniatáu ar gyfer cynllunio effeithlon ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio.
Gosodwyd y Strategaeth mewn fframwaith gweithredu 10 mlynedd ac mae’n ail yn ail gyfnod o weithredu wedi’i llywio gan gyhoeddiad Byw’n Hirach/ Byw’n Well 2008 – 2013 Llywodraeth y Cynulliad. O fewn y cam hwn o’r strategaeth, cafodd y nodau eu mireinio i adeiladu ar lwyddiannau’r cam cyntaf. Mae’n galw am adnewyddu ymdrechion gan awdurdodau lleol a’u partneriaid ac yn tanlinellu’r angen am ‘brif ffrydio’ pryderon pobl hyn ym mhob maes polisi – gyda pharhad themâu:
- Gwerthfawrogi pobl hyn: cynnal a datblygu ymrwymiad
- Newid cymdeithas: Statws a chyfraniad economaidd pobl hyn
- Hyrwyddo cynlluniau lles ac annibyniaeth
- Ei roi ar waith – gweithredu’r Strategaeth
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb arweiniol wrth ddatblygu’r strategaeth gyda chymorth cyllid datblygu gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’n ofynnol i bob awdurdod lleol gynhyrchu cynllun datblygu blynyddol ac adrodd ar weithgareddau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol.
Clive Phillips yw Cydlynydd Strategaeth – Gwasanaethau Pobl Hyn ym Mlaenau Gwent ac yn bennaf gyfrifol am weithredu cynlluniau datblygu lleol.
Ruth Iles yw’r Swyddog Cyfranogiad ac Ymgyfraniad y Cyhoedd (rhan-amser) ar gyfer cynnwys pobl (50+ oed). Mae Ruth yn trefnu digwyddiadau rheolaidd i dderbyn sylwadau pobl dros 50 ac yn cynrychioli’r sylwadau hyn mewn modd mor deg ag sydd modd mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Yng nghyswllt hyrwyddo gweithgareddau dysgu ar gyfer pobl (50+ oed), Karen Langworthy yw Cydlynydd Dysgu Pobl Hyn (rhan-amser), gan ymateb i ofynion addysg oedolion, hyrwyddo cysyniad Prifysgol y Trydydd Oed a chynlluniau Clwb Creadigol a Diwylliant.




