Beth yw cydlyniant cymunedol?
Mewn termau syml, mae cydlyniant cymunedol yn ymwneud â phobl - pob gwahanol fath o bobl yn byw ac cyd-dynnu’n dda gyda’i gilydd yn eu cymunedau. Cymuned gydlynol yw un lle mae parch ac ymddiriedaeth, lle caiff gwahaniaethau eu dathlu ac mae pawb yn rhannu gwerthoedd gyda gwir ymdeimlad o berthyn. Y diffiniad bras o Gydlyniant Cymunedol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yw:
“Cydlyniant cymunedol yw’r hyn sy’n rhaid iddo ddigwydd ym mhob cymuned i alluogi gwahanol grwpiau o bobl i gyd-dynnu’n dda. Mae integreiddio, sef yr hyn sy’n rhaid iddo ddigwyddi i alluogi preswylwyr newydd a phreswylwyr presennol i addasu i’w gilydd, yn gyfrannydd allweddol mewn cydlyniant cymunedol”.
Yn 2009 cyhoeddwyd “Cymru’n Cyd-dynnu”, Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gydlyniant Cymunedol. Diben y Strategaeth yw cefnogi darparwyr gwasanaeth a’u partneriaid i ddatblygu dull gweithredu strategol at hyrwyddo a chynnal cydlyniant yn eu hardaloedd lleol.
Mewn ymateb i strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, sefydlwyd Fforwm Cydlyniant Cymunedol Blaenau Gwent gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Blaenau Gwent Ddiogelach. Mae aelodau’r Fforwm yn cynnwys sefydliadau partner allweddol yn cynnwys Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, Heddlu Gwent, partneriaethau unigol Cymunedau yn Gyntaf, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Iechyd Cyhoeddus Blaenau Gwent, Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid, Cefnogaeth i Ddioddefwyr, Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.
Daeth y partneriaid ynghyd i ddatblygu cynllun yn canolbwyntio ar y 4 blaenoriaeth ddilynol:
1. Helpu cymunedau i gyd-dynnu
2. Mynd i’r afael â gwahaniaethu
3. Cael pobl i gymryd rhan
4. Gwneud i gydlyniant gyfrif
I gael mwy o wybodaeth ar Gydlyniant Cymunedol ym Mlaenau Gwent, cysylltwch â Swyddog Cyswllt Cydlyniant Cymunedol sy’n seiliedig yn GAVO.





