A oes gennych chi ddiddordeb yn hanes eich cymuned leol?
A ydych chi’n cynllunio neu a ydych chi’n y proses yn barod o olrhain eich hanes teuluol?
Os mai ydw yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau yma yna gall adnoddau Astudiaethau Lleol Llyfrgelloedd Blaenau Gwent eich helpu.
Mae’r Ganolfan Adnodd Astudiaeth Leol yn Llyfrgell Tredegar yn dal pob math o wybodaeth am y bwrdeistref a’i ffiniau. Mae’na lyfrau, dyddlyfrau, cyfeiriaduron, mapiau, papurau newydd a lluniau. Mae nifer o’r adnoddau yma yn cael eu dal ar microffish a microfilm. Mae darllenwyr microfilm a microffish wedi eu cyfyngu felly argymhellir archebu ymlaen llaw.
Mae’r holl lyfrgelloedd yn dal casgliadau bach o ddeunydd sydd yn perthyn i’r ardal leol. Fodd bynnag, mae’r casgliad mwyaf o ddeunydd astudiaeth leol yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Adnodd Astudiaeth Leol yn Llyfrgell Tredegar.





