CCTV – Tudalen Gwybodaeth Gyhoeddus

System CCTV

Mae System Goruchwyliaeth CCTV Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn cynnwys nifer o gamerâu a osodwyd mewn lleoliadau strategol o fewn y Sir. Mae’r holl gamerâu yn llwyr weithredol gyda chyfleusterau i dremio, gogwyddo a chwyddo. Ni chaiff yr holl gamerâu eu gosod mewn modd cudd. Mae rhai camerâu dan orchudd o fewn ardaloedd pob tywydd am resymau esthetig neu weithredol. Bydd arwyddion addas yn hysbysu fod camerâu yn bresennol o fewn ardal y system.


Amcanion y System

Amcanion y system CCTV a bennwyd gan y perchnogion, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent, sy’n rhoi sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data yw:-

• Diogelu a gwella ansawdd bywyd ar gyfer pob elfen o’r boblogaeth, y gymuned fusnes ac ymwelwyr i Flaenau Gwent.
• Cynyddu diogelwch personol a gostwng ofn troseddu.
• Gostwng lefelau troseddau stryd, anrhefn gyhoeddus, fandaliaeth, lladrad ceir ac o geir ar strydoedd a hefyd mewn meysydd parcio.
• Gostwng graffiti a difrod troseddol arall, gan felly wella’r amgylchedd a gostwng costau.
• Cefnogi’r Heddlu mewn ymgais i atal a datrys troseddau, dynodi, restio ac erlyn troseddwyr
• Cynnig gwasanaethau argyfwng eraill.
• Cynorthwyo gyda rheolaeth effeithiol y Sir lle mae’r system CCTV yn gweithredu.
• Gwella hyder masnachol yn y Sir.
• Atal a lliniaru ymyriadau i lif traffig.

Mae manylion llawn yr egwyddorion a meini prawf gweithredu’r system yn y Cod Ymarfer CCTV. Mae copïau o’r Cod ar gael yn rhad ac am ddim o brif Swyddfeydd y Cyngor.


Delweddau a Recordiwyd

Mae’r system CCTV yn gweithredu 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn. Caiff pob camera eu recordio’n barhaus mewn dull amlblecs oediog. Medrir gwneud recordiadau ychwanegol o luniau camera unigol mewn dull 3-awr (amser real).

Cedwir pob recordiad am o leiaf 28 diwrnod. Os na wneir cais dilys i gadw’r recordiadau, cânt wedyn eu sychu. Caiff pob cais am recordiad eu hystyried gyda darpariaethau Deddf Diogelu Data a’r Cod Ymarfer CCTV.

Mae’r egwyddorion dilynol yn llywio storio, prosesu a defnyddio data a recordiwyd a gafwyd gan y System:
• Dim ond ar gyfer y diben a ddiffiniwyd yn y Cod Ymarfer yn unol gyda’r Ddeddf Diogelu Data 1998 y defnyddir data a recordiwyd.
• Dim ond mewn amgylchiadau a ddiffiniwyd yn y Cod Ymarfer a darpariaethau deddfwriaeth berthnasol y bydd mynediad i ddata recordiwyd yn digwydd.
• Ni chaiff data a recordiwyd eu gwerthu neu eu defnyddio ar gyfer dibenion masnachol neu adloniant.
• Dim ond yn unol â’r gyfraith yng nghyswllt ymchwilio, erlyn neu atal troseddu y caiff data a recordiwyd ei ddangos i’r cyhoedd.
• Bydd data a gaiff ei ryddhau yn parhau i fod yn eiddo Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent.