Mae gan bob Cyngor lleol yng Nghymru ddyletswydd i arwain proses a elwir yn cynllunio cymunedol. Mae hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid eraill, gyda rhai ohonynt â dyletswydd gyfreithiol i ddatblygu a chyflenwi strategaeth gymunedol.
Yn syml, cynllunio cymunedol yw’r broses lle daw partneriaid lleol ynghyd i ddynodi anghenion a phroblemau’r ardal leol, ac amlinellu cyfeiriad clir ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys datblygu gweledigaeth, a nodi’r hyn sydd angen ei wneud a sut y cyflawnir hynny.
Mae’r broses hon yn arwain at gynhyrchu dogfen a elwir y strategaeth gymunedol. Mae hyn yn dod ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol mewn un lle. Dylai’r strategaeth gymunedol ddod y lle cyntaf yr aiff pobl iddo i ganfod beth yw’r cynlluniau ar gyfer yr ardal dros gyfnod o 10 i 20 mlynedd. Felly, mae’n bwysig y gall pobl ddeall yn rhwydd yr hyn y mae’n ei ddweud.
Ni all y strategaeth gymunedol roi sylw i bob mater a all fod yn berthnasol i gymuned leol. Dylai ganolbwyntio ar y materion hynny lle gall partneriaid, un ai gyda’i gilydd neu’n unigol, wneud gwahaniaeth dros y tymor hwy. Fodd bynnag, bydd cynhyrchu cynllun gweithredu gan bartneriaid lleol sy’n amlinellu’n ymarferol yr hyn a wneir i sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth yn rhan bwysig o’r prosesau cynlluniai cymunedol parhaus.
Mae’r broses gynllunio cymunedol wedi’i gwneud yn bosibl dynodi saith thema ar gyfer Strategaeth Gymunedol Blaenau Gwent. Mae gan bob thema ffocws cymunedol a’i gweledigaeth ei hun. Caiff y saith thema eu rhestri islaw. Nid ydynt mewn unrhyw drefn neilltuol ac ni fwriadir iddynt ychwaith gwmpasu cyfrifoldebau cyflawn partneriaid ym Mlaenau Gwent.
-
Cymunedau Bywiog a Hygyrch
Creu cymunedau y mae pobl yn eu mwynhau ac eisiau byw ynddynt
-
Cymunedau Ffyniannus
Cynnig y cyfleoedd, cefnogaeth ac adnoddau yn ein cymunedau i bobl ffynnu.
-
Cymunedau Teg a Diogel
Gwneud i bobl deimlo’n fwy diogel yn eu cymunedau.
-
Cymunedau Dysgu
Rhoi’r sgiliau i bobl lwyddo.
-
Cymunedau Iach
Helpu pobl i fod yn iach a chael y gofal a’r gefnogaeth iawn pan maent ei angen.
-
Cymunedau Gwyrdd a Chynaliadwy
Gwella ein hamgylchedd heddiw ar gyfer yfory
-
Arweinwyr Cymunedol
Gweithio gyda, a thros ein cymunedau
I wneud yn sicr fod ardal ar y llwybr cywir, mae’n rhaid i bartneriaid lleol adolygu'r hyn a wnaethpwyd bob blwyddyn. Mae’n rhaid cynnal adolygiad llawn unwaith bob pedair blynedd i weld os yw cyfeiriad cyffredinol y Strategaeth Gymunedol yn dal i fod yr un orau ar gyfer yr ardal yn ei chyfanrwydd. Mae’r cynllunio cymunedol yn broses barhaus, sy’n sicrhau y cedwir y Strategaeth Gymunedol yn berthnasol i’r ardal a’i chymunedau.
Cytunodd y Cyngor ar y strategaeth gymunedol ac fe’i lansiwyd yn nechrau 2011.





