Yn ôl y gyfraith, rhaid i warchodwyr plant:
• Gofrestru gyda’r Arolygaeth Safonau Gofal i Gymru (CSIW)
• Gael eu cartrefi wedi eu harolygu’n rheolaidd er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn addas a diogel
ar gyfer plant ifanc;
• Fod wedi eu hyswirio rhag ofn bod plentyn y maent yn ei warchod yn cael damwain neu
yn difrodi eiddo rhywun arall;
• Dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf sydd yn cynnwys rhoi cymorth cyntaf i fabis a phlant
ifanc; a
• Chael eu gwirio gan yr heddlu, fel sydd yn rhaid i bawb dros 16 mlwydd oed sydd yn byw
neu’n gweithio yng nghartref y gwarchodwr plant
Yn ddelfrydol os:
• Ydych angen gofal hyblyg oherwydd oriau gwaith anarferol yn gweithio oriau neu
shifftiau na sydd yn gweddu i ddiwrnod arferol meithrinfa o 8.00a.m. – 6.00p.m. Bydd rhai
gwarchodwyr plant yn darparu gofal dros nos.
• Ydych yn dymuno awyrgylch cartref lle gall y plentyn ddatblygu perthynas glos gyda’r
gofalwr a chymysgu gyda phlant eraill o wahanol oedran.
• Oes gennych blant o oedran gwahanol ac yn dymuno bod rhywun yn gofalu amdanynt
gyda’i gilydd
• Ydych yn dymuno gwasanaeth gwarchod plant sydd yn cynnig dilyniant; gall gwarchodwyr
plant ofalu am blentyn o unrhyw oedran, a byddant fel arfer yn eu casglu o’r ysgol.
The Children's Information Service on Free phone 08000 32 33 39
E-bost : cis@blaenau-gwent.gov.uk