Gall fod yn rhaid i’r sawl sydd yn berchen ar eiddo annomestig gwag dalu cyfraddau eiddo gwag sydd yn 50% o’r gost arferol. Mae’r gofyn i dalu’r cyfraddau yma yn cychwyn wedi i’r eiddo fod yn wag am 3 mis. Mae mathau arbennig o eiddo, er enghraifft ffatrïoedd a warysau, wedi eu heithrio o gyfraddau eiddo.
Gostyngiad Elusennol a Dewisol
Mae hawl gan elusennau i gael gostyngiad ar unrhyw gyfraddau ar eiddo annomestig sydd yn cael ei ddefnyddio’n unig neu ei ddefnyddio’n bennaf at ddibenion elusennol. Rhoddir gostyngiad o 80% o gyfradd y bil. Mae gan Awdurdodau Bilio'r dewis i ddileu rhan neu’r cyfan o’r 20% sydd yn weddill o fil elusen ar y fath eiddo a gallant hefyd ddileu cyfraddau mewn perthynas ag eiddo sydd wedi ei feddiannu gan gyrff penodol na sydd wedi eu sefydlu na’u rhedeg er mwyn gwneud elw.
Gostyngiad Cyfradd Gwledig
O’r 1af o Ebrill 2002, mae meddiannwyr busnesau cymwys gyda gwerth ardrethol o £6,000 neu lai (£9,000 os yw’r busnes yn dy cyhoeddus neu’n orsaf betrol) sydd yn ymddangos yn rhestr setliad gwledig yr awdurdod bilio yn gymwys ar gyfer gostyngiad cyfradd o 50% o’r cyfraddau bilio llawn. Mae gan awdurdodau bilio'r dewis i ddileu rhan neu’r cyfan o’r 50% sydd yn weddill.
Mae gan awdurdodau hefyd y dewis i ddileu rhan neu’r cyfan o’r holl filiau cyfradd ar eiddo eraill mewn setliad ar y rhestr setliad gwledig os yw’r gwerth ardrethol yn £12,000 neu lai a bod yr awdurdod yn fodlon fod yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at bwrpas sydd yn elwa’r gymuned leol.
Adran Trethi Busnes
Ffôn - (01495) 355212
ffacs - (01495) 356132
Post – Adran Trethi Busnes, Swyddfeydd Bwrdeisiol, Y Ganolfan Dinesig, Glyn Ebwy, Gwent NP23 6XB