Baw Cwn
Mae’r Cyngor yn derbyn nifer o gwynion am faw cwn. Mae baw cwn yn afiach, yn wrthgymdeithasol, annymunol, digroeso ac yn risg i iechyd cyhoeddus.
Cysylltir baw cwn gyda nifer o afiechydon, y gwaethaf o’u plith yw roundworm sydd i’w ganfod mewn cwn a adwaenir fel Toxocara. Gall plant ifanc ddal hyn gan achosi stumogau tost, dolur gwddf, asthma a dallineb o bosib.
Y Gyfraith
Mae’n drosedd i beidio â glanhau i fyny ar ôl eich ci. Mae methiant i wneud hyn yn medru arwain at hysbysiad o ddirwy penodol neu hyd yn oed erlyniad.
Glanhau ar ôl eich ci
Os ydych yn berchen ar gi, byddwch yn gyfrifol a gwnewch yn siwr eich bod o hyd yn cario rhaw faw neu fag addas. Gallwch wedyn ollwng y baw mewn bin addas neu fynd â’r baw adref.
Beth ydym yn ei wneud
Mae’r Cyngor yn cydnabod fod baw cwn yn broblem ym Mlaenau Gwent. Rydym yn gosod biniau cwn drwy’r Fwrdeistref, ac mae gennym uned ymateb cyflym ar gyfer glanhau. Mae perchnogion anghyfrifol sydd yn caniatáu i’w cwn faeddu tir cyhoeddus yn wynebu hysbysiad o ddirwy penodol dirwy neu erlyniad.
.






