A allech chi gynnig cartref i blentyn?
A ydych chi erioed wedi ystyried maethu? Efallai ei fod yn rhywbeth i chi wedi bod yn ei ystyried am gryn amser, neu efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd yn maethu ac rydych chi wedi bod yn meddwl os yw’r fath beth yn addas ar eich cyfer chi. Mae Cyngor Blaenau Gwent yn chwilio am ofalwyr maeth sydd yn medru cynnig cartref i blant am gyfnodau byr a hirach. Rydym hefyd angen gofalwyr sydd yn gallu cynnig gwyliau byr ar gyfer teuluoedd sydd angen amser yn rhydd o’u cyfrifoldebau gofalu.
Pam fod angen mwy o ofalwyr arnom?
Ar y foment mae gyda ni 46 o ofalwyr sydd yn darparu gofal ar gyfer plant na sydd yn medru byw gyda’u teuluoedd. Serch hynny mae yna nifer o blant sydd yn byw peth pellter oddi wrth eu teuluoedd ac ardal eu mebyd am nad oes gyda ni ddigon o ofalwyr yn byw’n lleol. Mae gadael eu teuluoedd yn brofiad poenus i blant, ac i’r rhai hynny sydd hefyd yn gorfod byw cryn bellter oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau, gall hyn fod yn arbennig o drallodus. Dyna paham y mae angen mwy o bobl leol arnom i gynnig cartref diogel a chadarn ar gyfer plant o bob oedran a chefndiroedd. Mae angen arbennig arnom am ofalwyr sydd yn gallu cynnig cartref i grwp o frodyr a chwiorydd, ac ar gyfer plant yn eu harddegau.
Pam ddylwn ni feddwl am faethu?
Mae gofalwyr maeth yn medru gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant. Mae nifer o’n plant wedi profi trawma ac aflonyddwch yn eu bywydau ac mae angen sefydlogrwydd a chadernid teulu cariadus arnynt. Mae’r swydd yn gallu bod yn heriol ac yn ddiddiolch ar gyfnodau, ond mae gwybod eich bod wedi helpu plentyn i dyfu i fyny i mewn i berson ifanc hyderus yn gallu bod yn hynod o wobrwyedig, ac mae nifer o’n gofalwyr dal mewn cysylltiad gyda phobl ifanc flynyddoedd wedi iddynt symud ymlaen.
Ateb eich cwestiynau
A oes angen i mi fod yn briod a chyda plant fy hun? Na, gallwch fod yn sengl, yn briod, neu’n byw gyda phartner gyda neu heb blant eich hun.
A oes angen i mi fod yn berchennog ty neu i fod gyda thy mawr? Na, gallwch naill ai fod yn berchen neu’n rhenti eich cartref, yr hyn sy’n bwysig yw bod gyda chi ddigon o ofod ar gyfer plentyn, a dylai’r plentyn hwnnw fod â’i ystafell ei hun.
A fyddai yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth fel gofalwr maeth? Byddwch, mi fyddwch yn derbyn lefel uchel o gefnogaeth a hyfforddiant arbenigol.
A allaf faethu os wyf yn ddi-waith? Gallwch, yr hyn sydd yn bwysig yw y bydd gyda chi amser i dalu am blentyn.
A fyddai yn derbyn lwfans? Byddwch, mi fyddwch yn derbyn lwfans i gwrdd â chost gofalu am y plentyn a bydd i gynnwys eitemau megis bwyd, dillad, gweithgareddau hamdden, gwisg ysgol a chyfarpar ac arian poced, Ni fydd lwfans maethu yn effeithio ar unrhyw Fudd-daliadau y byddwch yn ei dderbyn, er na fyddwch yn derbyn Lwfans Plentyn gan y bydd hwn yn cael ei gynnwys o fewn y lwfans.





