Mae’n ddyletswydd ar yr Awdurdod, drwy ei Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, i hyrwyddo ac amddiffyn lles plant mewn angen drwy ddarparu amrediad o wasanaethau i ateb yr anghenion hynny. Mae ganddo ddyletswydd hefyd i amddiffyn plant rhag camdriniaeth a rhaid iddo ymchwilio unrhyw honiadau a wneir gan unrhyw un sy’n amau fod plentyn yn cael ei gam-drin. Dylai unrhyw un sy’n amau fod plentyn yn cael eu cam-drin gysylltu ag unrhyw un Swyddfeydd Gwasanaethau Cymdeithasol, Llinell Gymorth Diogelu Plant NSPCC neu’r Heddlu.





