Allech chi wneud i ddymuniad ddod yn wir? Allech chi newid dyfodol plentyn? Dyma rywbeth y gallech ei wneud drwy ddod yn rhiant sy’n mabwysiadu. Os ydych chi erioed wedi meddwl am gymryd y cam mawr hwn, mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi.
Cafodd y llyfryn hwn ei ysgrifennu er mwyn dechrau ateb rhai o’r prif gwestiynau allai fod gennych, megis:
- Beth yw mabwysiadu?
- Allaf i fabwysiadu?
- Pwy yw’r plant sydd angen eu mabwysiadu?
- Sut i wneud cais a beth sy’n digwydd nesaf?
- Pa gefnogaeth gaf i?
- Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?





