Mae gan y bobl hynny sydd yn cadw anifeiliaid ddyletswydd i sicrhau nad yw eu hanifeiliaid yn crwydro oddi ar eu tir neu dir comin i achosi perygl traffig neu niwsans i drigolion y Fwrdeistref. Yn anffodus, gall problemau codi drwy weithredoedd pobl, na sydd yn sylweddoli goblygiadau gadael giât ar agor.
Mae fandaliaeth yn aml yn achos ffensys difrodedig, ambell waith digwydda hefyd oherwydd personau ar feiciau modur neu gerddwyr yn cymryd llwybr byr dros ffens. Gall cwn crwydrol bryderu da byw gan eu gweld o ganlyniad yn dianc allan o’u tir caeedig. Bydd cydweithrediad yn hanfodol, mae’r Tîm Dal o’r Adran Priffyrdd yn cysylltu gyda ffermwyr lleol i geisio symud y defaid, geifr, gwartheg neu geffylau crwydrol i’w cartref neu gomin.
Pan fo angen bydd yr anifeiliaid crwydrol yn cael eu dal a gallant gael eu rhyddhau wedi’r cyfnod safiad stond priodol drwy dalu’r ffi cymwys.
Noder os gwelwch yn dda y dylai pasbort gwartheg a cheffylau gael eu cynhyrchi er adnabyddiaeth pan fod trefniadau yn cael eu gwneud i’w rhyddhau. Cysylltwch gyda’r Tîm Dal am fanylion pellach.
Mae Aelodau a Swyddogion y Cyngor Bwrdeistrefol yn cysylltu yn rheolaidd gyda ffermwyr lleol, Heddlu Gwent a phobl eraill â diddordeb a mudiadau yn ystod cyfarfodydd y Parti Gwaith ar Anifeiliaid Crwydrol. Mae trefniant diweddar Heddlu Gwent a’r Cyngor yn meddwl y gall tramgwyddwr aml sydd yn gadael i’w anifeiliaid i grwydro cael eu herlyn o dan adran 155 o’r Ddeddf Priffyrdd.





