Dyma ddisgrifiadau byr o’r brif ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth y dylai cyrff cyhoeddus fod yn ymwybodol ohonynt.
Deddf Partneriaethau Sifil 2004
Darparu cydnabyddiaeth gyfreithlon a thriniaeth gyfartal i gyplau un rhyw, yn cynnwys buddion cyflogaeth a hawliau pensiwn. Mae’r Ddeddf Partneriaethau Sifil ar gael ar wefan Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI). Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
Gwahardd gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl mewn cyflogaeth, darpariaeth nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau neu weinyddu neu reoli safleoedd. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ar gael ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Diwygio) 2005
Cyflwyno dyletswydd gadarnhaol ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb ar gyfer pobl anabl. Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 ar gael ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Rheoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006
Diogelu yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol, erledigaeth, aflonyddu a chyfarwyddiadau i wahaniaethu. Mae’r Rheoliad Cyflogaeth (Oedran) 2006 ar wefan OPSI. Mae gwybodaeth bellach ar wefan ACAS a gwefan Cyflogwyr Llywodraeth Leol.
Rheoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gredo)
Mae’r gyfarwyddeb hon yn diogelu yn erbyn gwahaniaethu ar sail crefydd a chredo mewn cyflogaeth, hyfforddiant galwedigaethol, dyrchafiad ac amodau gwaith. Mae’r Rheoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gredo) ar gael ar wefan OPSI. Mae gwybodaeth bellach ar wefan Acas.
Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Gwahaniaethu ar sail Rhyw) 2005
Cyflwyno diffiniadau newydd o wahaniaethu anuniongyrchol ac aflonyddu, gwahardd gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth, gosod i ba raddau y mae’n gwahaniaethu i dalu llai i fenyw nag y byddai wedi ei dderbyn fel arall oherwydd materion beichiogrwydd neu famolaeth. Mae’r Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Gwahaniaethu ar sail Rhyw) 2005 ar gael ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar y wefan Cydraddoldeb a Chomisiwn Hawliau Dynol (EHRC).
Rheoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadaeth Rhywiol) 2003
Mae’r gyfarwyddeb hon yn diogelu yn erbyn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol mewn cyflogaeth, hyfforddiant galwedigaethol ac amodau gwaith. Mae’r Rheoliad Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) ar gael ar wefan OPSI. Mae gwybodaeth bellach ar wefan Acas.
Deddf Cyflogau Cyfartal 1970 (Diwygio)
Mae hyn yn rhoi’r un cyflog a buddion contract i unigolyn â pherson o’r rhyw arall yn yr un gyflogaeth, lle mae’r dyn a’r fenyw yn gwneud: gwaith cyffelyb, gwaith a gaiff ei gyfrif fel cyfwerth dan astudiaeth gwerthuso swydd dadansoddol; neu waith a brofir i fod o werth cyfartal. Mae’r Rheoliad Cyflog Cyfartal (Diwygio) 1970 ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf Cydraddoldeb 2006
Sefydlu un Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2007 sy’n disodli’r comisiynau blaenorol. Cyflwyno dyletswydd gadarnhaol ar gyrff sector cyhoeddus i hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng dynion a menywod a dileu gwahaniaethu ar sail rhyw. Gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd neu gredo yn nhermau mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau da a galluogi’r llywodraeth i gyflwyno rheoliadau i roi’r un diogeliad yn nhermau Cyfeiriadedd Rhywiol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 ar gael ar wefan OPSI.
Deddf Cydnabyddiaeth Rhywedd 2004
Diben y Ddeddf yw rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol yn eu rhywedd caffaeledig i bobl trawsrywiol. Mae cydnabyddiaeth gyfreithiol yn dilyn cyhoeddi tystysgrif cydnabyddiaeth rhywedd llawn gan banel cydnabod rhywedd. Mae Deddf Cydnabod Rhywedd 2003 ar gael ar wefan OPSI. Mae gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf Llywodraeth Cymru 2006
Mae’r Ddeddf yn newid Deddf wreiddiol 1998 drwy wahanu’n ffurfiol rolau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Adrannau 35, 77 a 78 yn dodi dyletswydd ar y ddau barti i roi ystyriaeth i gyfle cyfartal ar gyfer pawb a thrin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal eu busnesau.
Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976
Mae’r Ddeddf yn gwahardd gwahaniaethu ar sail hil ym meysydd cyflogaeth, addysg a darpariaeth nwyddau, cyfleusterau, gwasanaethau ac adeiladau. Mae gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000
Mae’r Ddeddf yn dodi dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus i hyrwyddo cyfle cyfartal, dileu gwahaniaethu hiliol a hyrwyddo cysylltiadau da rhwng gwahanol grwpiau hiliol. Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000 ar gael ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Rheoliad Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Diwygio) 2003
Cyflwynodd ddiffiniadau newydd o wahaniaethu anuniongyrchol ac aflonyddu, gofynion newydd am faich tystiolaeth, diogeliad parhaus ar ôl i gyflogaeth ddod i ben, eithriad newydd ar gyfer gofyniad swydd penodol a dileu rhai eithriadau eraill. Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Diwygio) 2003 ar gael ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC)
Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006
Mae’r Ddeddf yn ceisio atal pobl rhag defnyddio geiriau bwriadol fygythiol neu i ennyn casineb yn erbyn rhywun oherwydd eu credoau. Mae Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 ar gael ar wefan OPSI. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975
Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu ar sail rhyw. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon mewn cyflogaeth, addysg, hysbysebu neu wrth ddarparu tai, nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau. Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu mewn cyflogaeth neu hysbysebion am swyddi oherwydd bod rhywun yn briod. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Ailbennu Rhywedd) 1999
Mae’r Ddeddf hon yn gwahardd gwahaniaethu ar sail rhyw yng nghyswllt ailbennu rhywedd. Mae’n egluro’r gyfraith ar gyfer pobl trawsrywiol yng nghyswllt cyflog a thriniaeth gyfartal mewn cyflogaeth a hyfforddiant. Mae’r Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Ailbennu Rhywedd) ar gael ar wefan Press for Change. Gwybodaeth bellach ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC).
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Mae’r Ddeddf yn sefydlu cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus ac yn nodi’r gofyniad i gynhyrchu Cynlluniau Iaith Gymraeg. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.




