Mabwysiadu Llys-Riant

Yn aml dymuna partneriaid rhieni fabwysiadu plant o gydberthnasau blaenorol eu partner.  Golyga mabwysiadu llys-riant ddod yn rhiant cyfreithiol y plentyn.  Golyga hyn wneud ymrwymiad gydol oes i’r plentyn.

I fabwysiadu plentyn eich partner sydd fel arfer yn byw yn y DU bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol eich bod yn bwriadu mabwysiadu o leiaf dri mis cyn dechrau’ch cais mabwysiadu gyda’r llys.

Cyn i chi ddechrau
Mae mabwysiadu’n bennaf ynghylch yr hyn sydd orau i’r plentyn /plant sydd ynghlwm wrth yr achos.

Mae’n bwysig deall nad mabwysiadu llys-riant yw’r unig ffordd i ddarparu amgylchedd teulu diogel nac i gydnabod hawliau, swyddogaethau a chyfrifoldebau llys-rieni.

Dylech felly ystyried yr holl ddewisiadau amgen cyn bwrw ymlaen â mabwysiadu llys-riant, ni fydd y Llysoedd yn awtomatig yn caniatáu gorchymyn mabwysiadu a bydd yn disgwyl i’r dewisiadau amgen eraill fod wedi’u hymchwilio a‘u hasesu yn gyntaf.

Fe’ch cynghorir i geisio cyngor cyn gwneud cais mabwysiadu.

Gallwch gysylltu â ni am wybodaeth a chyngor cyn cysylltu â’ch awdurdod lleol neu’ch llys barn, cynhwysir ein manylion cyswllt yn yr adran “gwybodaeth gyswllt”.

Gallech yn ogystal ystyried cysylltu â chyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith plant a theulu er nad yw hyn yn ofyniad gorfodol.  Fe gewch fanylion cyfreithwyr teulu yn y cyfeiriadur ffôn lleol neu yn y Tudalennau Melyn.

Effaith Mabwysiadu Llys-Riant

Ar y plentyn a fabwysiadwyd
Mae nifer o ganlyniadau yn deillio o fabwysiadu llys-riant yn cynnwys y canlynol:

  • Cydnabyddir y berthynas rhwng y plentyn a’r llys-riant yn gyfreithiol.
  • Fe gaiff y llys-riant gyfrifoldeb rhiant, yn union fel cyfrifoldeb y rhiant biolegol.
  • Gallai’r plentyn dderbyn cyfenw newydd neu enw’r teulu.

Mae nifer o ganlyniadau ehangach i’w hystyried gan na fyddai gan y plentyn  bellach unrhyw gysylltiadau cyfreithiol i’r rhiant biolegol arall a rhan fawr o deulu’r rhiant hwnnw.

Er y gellid cynnal cydberthnasau da, fe olyga, yn gyfreithiol, y bydd y plentyn wedi’i fabwysiadu:

  • Yn colli unrhyw hawliau awtomatig i gyswllt â’r rhiant hwnnw neu deulu’r rhiant hwnnw (modrybedd, ewythredd, teidiau/neiniau ayb).
  • Yn colli unrhyw hawliau i daliadau cynnal oddi wrth y rhiant biolegol arall.
  • Yn colli unrhyw hawliau i etifeddiaeth oddi wrth y rhiant biolegol arall neu deulu’r rhiant hwnnw oni bai i ddarpariaeth arbennig gael ei gwneud yn eu hewyllysïau. 

Ar y Llys- Rieni
Daw’r llys-rieni yn rhieni cyfreithiol y plentyn, gyda’r holl hawliau a chyfrifoldebau fyddent wedi’u cael petai’r plentyn wedi’i eni iddynt hwy.  Mae mabwysiadu yn ymrwymiad gydol-oes i fod yn rhiant ar hyd plentyndod a thu hwnt.  Mae mabwysiadu’n barhaol ac ni ellir ei ddadwneud ac eithrio mewn amgylchiadau prin ac eithafol.

Ar Rieni Biolegol
Bydd Gorchymyn mabwysiadu yn symud cyfrifoldeb rhiant (os yw’r cyfrifoldeb ganddo/i) oddi wrth y rhiant biolegol arall ond ni fydd yn ei symud oddi wrth y rhiant sy’n bartner i’r llys-riant.

Os yw cwpl mewn cydberthynas newydd neu ail briodas yn gwahanu neu’n ysgaru yn dilyn gwneud gorchymyn mabwysiadu, bydd gan y ddau bartner hawliau cyfartal i’r plentyn tra deil rhiant biolegol arall y plentyn heb hawliau.  Bydd cyfrifoldebau’r rhieni sy’n mabwysiadu yn parhau i’r plentyn.

Ar gofnod

  • Cofnodir gwneud gorchymyn mabwysiadu yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig  (nid yw’r Gofrestr Plant Mabwysiedig ar agor i’w harolygu na’i chwilio gan y cyhoedd).
  • Cyflwynir tystysgrif mabwysiadu i rieni sy’n mabwysiadu.
  • Annodir hefyd yng nghofnod y plentyn yn y gofrestr genedigaethau-byw fod mabwysiadu wedi digwydd.  Pan yw’n 18 oed gall person wedi’i fabwysiadu wneud cais am gopi o’i dystysgrif eni wreiddiol.

Pethau pwysig eraill i’w hystyried

Pwynt pwysig y gall pobl ei anghofio yw fod y llysoedd yn edrych ar fabwysiadu o bersbectif y plentyn, yn hytrach na phersbectif yr oedolyn.  Rhoddir ystyriaeth i ddymuniadau’r oedolyn, ond caniateir gorchymyn mabwysiadu os cyfrifir ef er budd y plentyn.  Teimla rhai pobl yr angen i fabwysiadu’u llys-blentyn er mwyn ceisio gwneud y teulu i deimlo’n gyflawn, ond nid yw hyn yn rheswm digonol i lys ganiatáu gorchymyn mabwysiadu. 

Y Meini Prawf dros Fabwysiadu Llys-Riant
Gall ceisiadau gael eu gwneud gan naill ai bartner priod neu ddi-briod (naill ai o ryw gwahanol neu o’r un rhyw) rhiant y mae’n byw gydag ef/gyda hi mewn perthynas deuluol gadarn (fel arfer yn parhau am 3 blynedd neu fwy).

Mae’n rhaid i’r llys-riant fod wedi byw gyda’r plentyn am o leiaf chwe mis cyn y cais.  Dylai’r ymgeisydd fod dros 18 oed.

Mae’n rhaid i’r llys-riant wneud cais i’r Llys i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud.  Lle caniateir cais daw’r llys-riant yn rhiant sy’n mabwysiadu.

Mae’r gorchymyn mabwysiadu’n bosib yn unig:

  • Os yw’r Llys yn penderfynu ei fod er budd gorau’r plentyn.
  • Os yw unrhyw riant arall sydd â swyddogaeth ym mywyd y plentyn ac sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno (oni bai bod y Llys yn penderfynu nad yw eu caniatâd yn ofynnol).
  • Os yw’r plentyn wedi bod yng ngofal y cwpl am dros 6 mis cyn y cais.
  • Os yw’r ddau ymgeisydd yn 21 oed oni bai bod y rhiant biolegol yn 18 neu’n hyn.
  • Os yw un o’r cwpl yn preswylio yn y DU neu fod y ddau riant wedi preswylio yn y DU am flwyddyn neu fwy.
  • Os nad yw’r cwpl yn cynnwys dau berson sy’n perthyn (e.e. dwy chwaer hyn yn mabwysiadu brawd neu chwaer iau).
  • Er mwyn cael tystiolaeth o sefydlogrwydd, mae’n rhaid i’r cwpl gael eu hasesu gan y Llys i brofi eu bod “mewn perthynas deuluol gadarn”. 

Noder nad yw bellach yn ofynnol yn gyfreithiol fod rhieni biolegol yn mabwysiadu’u plentyn eu hun ar yr un amser â’r llys-rieni.

Dewisiadau Amgen i Fabwysiadu Llys-Riant
Mae’n eithaf naturiol i lys-riant yrru’r penderfyniad i fabwysiadu plant yn ei awydd/hawydd i ddod yn rhan o’r uned deuluol ffurfiol.

Fodd bynnag, nid mabwysiadu bob amser allai fod y ffordd orau i ddarparu sefydlogrwydd a chadernid i blentyn.

Mae’r Llysoedd yn aml yn cydnabod nifer o ddewisiadau amgen sy’n cynnwys:

Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhiant
Gorchymyn, os caniateir ef gan y Llys, sy’n rhoi i’r llys-riant gyfrifoldeb rhiant. Nid yw hyn yn rhwygo’r cysylltiadau ffurfiol gyda theulu estynedig biolegol y plentyn fel y gwnâi mabwysiadu.

Cytundeb Cyfrifoldeb Rhiant
Cytundeb ffurfiol yw hwn gaiff ei lunio gan gyfreithiwr sy’n egluro hawliau, swyddogaethau a chyfrifoldebau pawb â chyfrifoldeb rhiant.

Gorchymyn Preswyl
Mae gorchymynion preswyl yn rhoi cyfrifoldebau a hawliau rhiant i ymgeisydd heb symud cyfrifoldeb rhiant oddi wrth riant biolegol absennol. Mae hefyd yn penderfynu gyda phwy bydd y plentyn yn byw. Mae Gorchymyn Preswyl yn parhau nes bod y plentyn yn 16 oed.

Mae’n ddull sy’n caniatáu i lys-riant gael cyfrifoldebau a hawliau heb rwygo cysylltiadau cyfreithiol i riant biolegol fyddai’n digwydd o ganlyniad i fabwysiadu.

Gorchymyn Cyswllt
Mae gorchymyn cyswllt yn amlinellu’r math o gyswllt a lefel y cyswllt y gallai neu na allai’r plentyn ei gael gan berson arall, ar y ffôn neu’n bersonol.

Gall hwn fod yn fanteisiol iawn i gynnal y gydberthynas gyda rhieni o bell.

Cyngor Cyfreithiol
Gallech ddymuno ceisio cyngor Cyfreithiwr Plant a Theulu cyn bwrw iddi a gwneud cais. Nid yw’n orfodol na phob amser yn angenrheidiol i gael cynrychiolaeth gyfreithioI i wneud cais mabwysiadu, fodd bynnag mewn achosion cymhleth neu achosion lle mae anghydfod gallai fod yn ddoeth cael cynrychiolaeth gyfreithiol.

Beth i’w wneud nesaf?

1. Cysylltwch â Thîm Mabwysiadu’r Awdurdod Lleol am gyngor cyffredinol.

2. Hysbyswch yr Awdurdod Lleol yn ysgrifenedig o’ch bwriad i wneud cais am fabwysiadu llys-riant (dylid gwneud hyn o leiaf dri mis cyn eich bod yn gwneud y cais i’r llys, gellir gwneud hyn hefyd gan gyfreithiwr ar eich rhan os oes gennych un). 

3. Bydd yr Awdurdod Lleol yn cysylltu â chi i gadarnhau dyddiad swyddogol yr hysbysiad. Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn ymweld â chi i drafod mabwysiadu a’r dewisiadau amgen. Bydd gan y Gweithiwr Cymdeithasol hefyd ddyletswydd i ymweld â’r plentyn i sicrhau bod ei ofal a’i les yn foddhaol.

4. Gosodwch eich cais gyda’r Llys. Gellir defnyddio llys Achosion Teuluol (llys ynadon) os yw’r ddau riant yn cydsynio i’r mabwysiadu.  Os yw’r cais yn cynnwys materion eithaf anodd neu gymhleth gellid ei drosglwyddo i Ganolfan Fabwysiadu. Llysoedd sirol arbenigol yw’r Canolfannau Mabwysiadu gyda barnwyr mabwysiadu sy’n brofiadol yn y broses fabwysiadu. Bydd angen i chi dalu ffi cais i’r llys, ni ddychwelir y ffi pe byddech nes ymlaen yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r broses.

5. Bydd y Llys yn gofyn i un o’ch gweithwyr cymdeithasol ddarparu adroddiad manwl cyn y gall wneud gorchymyn mabwysiadu. Cyfeirir at yr adroddiad fel Adroddiad Addasrwydd ac mae’n rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • Chi.
  • Eich teulu.
  • Eich iechyd.
  • Gwiriadau gan yr Heddlu, Prawf a rhestri amddiffyn plant.
  • Partneriaid blaenorol y llys-riant (a manylion am unrhyw blant eraill).
  • Pa ddewisiadau amgen i fabwysiadu y rhoddwyd ystyriaeth iddynt.
  • Tystiolaeth fod ymdrechion digonol wedi’u gwneud i olrhain, cysylltu a cheisio safbwyntiau rhiant absennol neu bell.
  • A yw mabwysiadu er budd gorau’r plentyn.
  • Lles ac addysg y plentyn.

Bydd yr adroddiad hefyd yn asesu effaith bosib y mabwysiadu ar y plentyn ac ar y ddau riant biolegol. Mae’r adroddiad yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod argymell i’r llys a yw’n credu bod mabwysiadu er budd gorau’r plentyn. 

Bydd hyn o gymorth i’r Llys benderfynu ai gorchymyn mabwysiadu yw’r cam mwyaf addas i’r teulu cyfan neu a yw dewisiadau amgen eraill yn fwy addas.

6. Bydd y Llys hefyd yn penodi Swyddog Cofnodi fydd yn ymweld â’r ddau riant biolegol a’r ymgeisydd i ymdrin â chytundebau i fabwysiadu.

7. Bydd y Llys wedyn yn gwneud ei benderfyniad i gymeradwyo gorchymyn mabwysiadu ai peidio.  Gwahoddir yr ymgeisyddion a’r plentyn i fynychu gwrandawiad mabwysiadu yn y Llys.  Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol hefyd yn mynychu’r gwrandawiad a gall eich cyfreithiwr hefyd fynychu, os oes gennych un.  Gall y Llys wneud Gorchymyn Mabwysiadu, beidio â gwneud gorchymyn o gwbl neu wneud gorchymyn amgen megis gorchymyn preswyl.

Manylion Cyswllt

Tîm Mabwysiadu
7 Stryd y Bont
Glyn Ebwy
NP23 6EY

Rhif Ffôn: (01495) 355753 or 355764

 

Ebost : adoption@blaenau-gwent.gov.uk



LLys Sirol Casnewydd (Canolfan Fabwysiadu)
Ty Olympia
3ydd Llawr
Stryd Uchaf y Dociau
Casnewydd
NP20 1PQ

Rhif Ffôn: (01633) 227151