Gofal plant a theulu

Children

Mae gofyniad cyfreithiol ar Wasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc sydd angen cefnogaeth a / neu ddiogelwch. Cred yr Awdurdod Lleol mai’r lle gorau i blentyn yw gyda’i deulu. Rydym yn anelu i gyflawni hyn drwy weithio gyda theuluoedd ac asiantaethau eraill i ddarparu cyngor, canllaw a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd. Mewn rhai achosion ni fydd yn bosibl i blentyn i fyw gyda’u teulu, pan mai hyn yw’r sefyllfa bydd y Llys yn cael ei ofyn i wneud penderfyniad p’un a ddylai'r awdurdod lleol edrych ar ôl y plentyn.


Plant mewn angen?

Mae dyletswydd ar yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwasanaethau ar gyfer plant sydd mewn angen. Gall hyn gynnwys:

  • plant ag anableddau
  • plant â theuluoedd sydd angen cefnogaeth
  • plant sydd yn cael eu gofalu amdano gan awdurdod lleol
  • plant sydd mewn angen o ddiogelwch
  • plant sydd yn tramgwyddo neu sydd mewn peryg o dramgwyddo
  • plant sydd wedi eu mabwysiadu

Sut ydych yn gwybod bod eich plentyn mewn angen?

Fel rhiant neu ofalwr mae gyda chi gwell gwybodaeth am eich plentyn nag unrhyw berson arall. Efallai y bydd angen help arnoch i benderfynu os oes gan eich plentyn anghenion penodol, gall ymwelydd iechyd, meddyg, athro, gweithiwr cymdeithasol, neu berson proffesiynol arall eich cynorthwyo gyda hyn.


Sut bydd angen eich plentyn am wasanaethau yn cael ei benderfynu?

Bydd asesiad yn cael ei ymgymryd i adnabod anghenion plant a’u teuluoedd pan fydd cyfeiriad yn cael ei dderbyn gan Wasanaethau Cymdeithasol sydd yn dynodi bod plentyn o bosib ‘mewn angen’ cefnogaeth neu ddiogelwch.

Pa wasanaethau sydd ar gael o’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol?

Cyngor a Chanllaw:  Bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio darparu gwybodaeth a chyngor cyffredinol i blant ac i’w teuluoedd. Gall hwn gynnwys darparu manylion o asiantaethau neu bobl broffesiynol eraill sydd yn cynnig help i blant a’u teuluoedd.

Cefnogaeth a Chymorth:  Yn dilyn yr asesiad cychwynnol a chraidd (gweler y daflen ‘Asesiad o Blant Mewn Angen a’u Teuluoedd’) bydd cyfarfod yn cael ei gynnal a fydd yn cynnwys y teulu a’r bobl broffesiynol hynny sydd yn ymwneud gyda’r teulu i ddatblygu cynllun. Bydd y cyluun yn helpu i adnabod pa wasaethau bydd asianaethau yn darparu i deulu.  Gall Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu cefnogaeth yn y cartref i deuluoedd, cyngor a chanllaw cyffredinol neu gofyn i NCH Cymru neu fudiadau gwirfoddol eraill, i ddarparu cefnogaeth ar eu rhan.

Plant gydag Anableddau:  Darperir gwasanaethau ar gyfer plant gydag anhawsterau corfforol neu ddysgu sydd yn anelu i leihau’r effeithiau o anabledd a rhoi’r cyfle i blant i fyw bywydau sydd mor normal â phosibl. Yn ychwanegol i wasanaethau eraill sydd ar gael i blant, gellir darparu teclynnau i gynorthwyo gyda byw o ddydd i ddydd yn dilyn asesiad o anghenion.  Rhaid i Adran Gwasanaethau Cymdeithasol gadw cofrestr o blant anabl. Byddwch yn derbyn gwybodaeth am y gofrestr a fydd yn eich galluogi i benderfynu os ydych am i’ch plentyn gael ei gofrestru. Ni fydd peidio â chofrestru eich plentyn yn effeithio ar hawl eich plentyn i wasanaethau.

Plentyn sy’n Derbyn Gofal:  Mae Gwasanaethau Cymdeithasol bob tro yn ceisio cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd. Fodd bynnag, mae yna achlysuron pan fydd angen i blant gael eu gofalu amdano gan bobl heblaw eu rhieni. Lle digwydd hyn, bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda chi i geisio gofal amgen gyda theulu’r plentyn, os na ystyrir hyn yn briodol  efallai y bydd plentyn yn cael eu rhoi gyda gofalwyr maeth neu mewn lleoliad preswyl.

Mabwysiadu:  Fel Asiantaeth Mabwysiadu gofrestredig, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn darparu gwasanaeth mabwysiadu cynhwysfawr i’r holl bobl hynny mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan fabwysiadu. Mae hwn yn cynnwys recriwtio, asesu a pharatoi teuluoedd maeth i weithio yn agos gyda’r Awdurdod Lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i sicrhau bod cydweddu addas yn cael eu canfod ar gyfer y plant hynny sydd angen cartrefi mabwysiedig. Ynghyd â darparu gwasanaethau ar gyfer y plentyn, mae cyngor, cwnsela a chefnogaeth sydd yn berthnasol i faterion mabwysiadu ar gael ar gyfer oedolion sydd wedi eu mabwysiadu a’u rhieni geni a pherthnasau, nid ond ar adeg y mabwysiadu, ond ar unrhyw adeg trwy eu bywydau.

Diogelu Plant:  Mae’r Awdurdod, drwy ei Adran Gwasanethau Cymdeithasol, â goblygiad i hyrwyddo a diogelu lles plant mewn angen drwy ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i gwrdd â’r anghenion hynny. Mae ganddo oblygiad hefyd i ddiogelu plant rhag camdriniaeth a rhaid iddo ymchwilio unrhyw honiad a wneir gan rywun sydd yn drwgdybio bod plentyn yn cael eu camdrin. Dylai unrhyw un sydd yn amau bod plentyn yn cael ei gamdrin gysylltu gydag unrhyw un o’r Swyddfeydd Gwasanethau Cymdeithasol, Llinell Gymorth Diogelu Plant yr NSPCC neu’r Heddlu.

Maethu:  Mae Gwasanethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn recriwtio ac yn hyfforddi gofalwyr maeth. Mae gofalwyr maeth yn cael eu hasesu a’u cymeradwyo gan Banel Maethu'r Awdurdod Lleol i ofalu am blant neu bobl ifanc na sydd yn medru byw gyda’u teuluoedd. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn dod yn ofalwr maeth dros Blaenau Gwent cysylltwch gyda Rheolwr Tîm y Tîm Maethu.

Cyfrinachedd

Bydd unrhyw wybodaeth a geir oddi wrthych yn cael ei ddal yn gyfrinachol a gall fod gennych hawl i’w weld yn unol gyda’r Rheoliadau Mynediad i Ffeiliau Personol (Gwasanaethau Cymdeithasol).

A oes gen i ddylanwad dros beth wyf yn ei dderbyn?

Oes, mae eich sylwadau yn cael eu cymryd i ystyriaeth ar bob cam ac rydym hefyd yn annog defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i gymryd rhan yn y cynllunio o wasanaethau. Byddai gennym diddordeb i gael eich barn ar ein gwasanaethau ac i glywed oddi wrthych am unrhyw syniadau sydd gyda chi dros eu gwella.

 

Manylion Cyswllt

C2BG
Y Ganolfan Cyswllt
Depot Canolog
Yst Diw Caebarlys
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959

E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk