Gofalwyr

Elderly Man and his Carer

Mae gan ofalwyr rôl hollbwysig yn ein cymuned drwy edrych ar ôl y rhai sydd mewn afiechyd, yn anabl, yn agored i niwed neu’n llesg.

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydnabod y gwerth enfawr y mae gofalwyr yn ei roi drwy ofalu am eraill a’n nod yw sicrhau, lle bynnag sy’n bosibl, fod y gwasanaethau a roddir yn ymateb i anghenion ac amgylchiadau'r gofalydd unigol.

I gyflawni’r nod hon credwn ei bod yn bwysig y caiff yr egwyddorion dilynol eu cydnabod wrth bennu anghenion y gofalydd:

 

  • Dylai fod consyrn cyffredinol am les y person y ‘gofalir amdano’.
  • Dylai gofalwyr gael eu cefnogi i gael seibiant byr o’r rôl gofalu.
  • Rhyddid i ofalwyr gael eu bywyd eu hunain.
  • Cydnabod yr angen i gynorthwyo wrth gynnal iechyd y gofalydd.
  • Cyfrinachedd yn y gwasanaethau a roddir i ofalwyr a’r rhai y ‘gofalir amdanynt’.
  • Angen i ofalwyr gael llais mewn darpariaeth gwasanaeth.
  • Mae gan ofalwyr gyfoeth o wybodaeth a phrofiad am y gofal a roddant a chânt eu gweld fel partneriaid wrth ddarparu’r gofal yma.
  • Caiff gofalwyr eu grymuso i wneud mwy o ddewisiadau drostynt eu hunain a chael mwy o reolaeth dros eu bywydau, fel y medrir parchu dymuniadau unigol.
  • Bydd gwasanaethau yr un mor hygyrch i bobl beth bynnag eu hoedran, rhyw, anabledd, diwylliant neu hil.
  • Caiff gofalwyr eu parchu a’u gwerthfawrogi fel pobl o’u rhan eu hunain gyda’u hanghenion eu hunain yn ogystal ag fel gofalwyr, ar wahân i anghenion y bobl y gofalant amdanynt.

Pwy sy’n ofalydd?
Gofalydd yw unrhyw un sy’n rhoi llawer o ofal yn rheolaidd ar gyfer aelod o’u teulu neu gyfaill - ond na chânt eu cyflogi i wneud hynny. Nid yw gofalwyr yn dewis dod yn ofalwyr, mae’n digwydd oherwydd consyrn mawr a chariad at y person y gofalant amdano.

Mae gofalydd yn rhywun sy’n rhoi help a chymorth i bartner, plentyn, perthynas, cyfaill neu gymydog, na fedrai ymdopi heb eu help. Medrai hyn fod oherwydd oedran, salwch corfforol neu feddygol, caethiwed i gyffuriau neu alcohol neu anabledd.

Gofalwyr Ifanc
Gofalydd ifanc yw plentyn neu berson ifanc dan 18 oed sy’n gwneud tasgau gofalu sylweddol ac yn tybio lefel cyfrifoldeb am berson arall, y byddai oedolyn yn ei wneud fel arfer.

Mae gofalwyr ifanc yn wynebu cyfrifoldebau gofalu difrifol ac mae’r straen corfforol ac emosiynol weithiau’n anodd iawn. Mae ganddynt hefyd bwysau ychwanegol o'r ysgol ac yn aml mae diffyg dealltwriaeth o’u rôl.

Asesu Gofalwyr
Mae gan unrhyw ofalwr sy’n darparu gofal rheolaidd a sylweddol hawl i gael asesiad o’u hanghenion gan Wasanaethau Cymdeithasol. Mae Asesiad Gofalydd yn gyfweliad neu’n gyfres o gyfweliadau gyda’r gofalydd i weld pa help y gall y gofalydd fod ei angen i barhau i edrych ar ôl y person y ‘gofalir amdano’.

Nid yw hyn yn ymwneud â barnu’r ffordd yr ydych yn gofalu am rywun. Mae’n gyfle i chi wneud yn sicr ein bod yn deall eich anghenion fel gofalydd o’ch safbwynt chi, ac i chi ddweud wrthym am y mathau o gymorth a fedrai eich cynorthwyo i ofalu a hefyd eich helpu wrth gadw eich iechyd eich hunan, gan eich galluogi i barhau â’ch rôl ofalu.

Beth sy’n digwydd nesaf?
Yn dilyn yr asesiad byddwn yn trafod y lefelau help a ddarparwch. Bydd yr asesiad yn rhestru’r holl dasgau a wnewch ac o hyn medrwn gytuno ar y ffordd orau i’ch helpu.

Manylion Cyswllt

Tîm Atgyfeiriadau Penodol:
C2BG
Canolfan Gyswllt
Depot Canolog
Stad Ddiwydiannol Barleyfield
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 315700
Ffacs: (01495) 353350
Minicom: (01495) 355959

E-bost : info@blaenau-gwent.gov.uk



Pencadlys:
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys yr Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285