Yn unol gyda Deddf Hapchwarae 2005, mae’n rhaid i’r Cyngor adolygu ei Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu bob tair blynedd. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y drafft bolisi arfaethedig rhwng 30 Gorffennaf 2009 a 1 Hydref 2009 a derbyniwyd nifer o ymatebion. Newidiwyd y polisi drafft yn unol â’r sylwadau a’i gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 19 Tachwedd 2009. Felly, cyhoeddir y Datganiad o Bolisi Trwyddedu ar 3 Ionawr a daw i rym ar 31 Ionawr 2010.
Bydd y polisi ar gael i’w archwilio yn yr Adran Drwyddedu, Swyddfa Ardal, 18 Stryd Beaufort, Brynmawr o’r dyddiad cyhoeddi rhwng 9.00am a 5.00pm o’r gloch ddydd Llun i ddydd Gwener. Medrir hefyd ei weld drwy’r ddolen islaw:
Cysylltwch â’r Tîm Trwyddedu os gwelwch yn dda os hoffech wybodaeth bellach am y polisi.
Statement of Licensing Policy - 31st January 2010 (PDF File)
Daeth Deddf Hapchwarae 2005 i rym ar 1 Medi 2007 ac mae’n newid y ffordd y caiff amrediad o weithgareddau hapchwarae eu rheoleiddio. Bydd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn awr yn dod yn gyfrifol am rai safleoedd hapchwarae o fewn y Fwrdeisdref.
Mae Deddf Hapchwarae 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi Datganiad o Bolisi Hapchwarae sy’n nodi’r polisïau y bydd y Cyngor yn eu gweithredu’n gyffredinol i hyrwyddo’r tri amcan trwyddedu wrth wneud penderfyniad ar gais yn unol â’r Ddeddf.
Y tri amcan trwyddedu yw:-
- atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu ac anrhefn, bod yn gysylltiedig gyda throseddu ac anrhefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu
- sicrhau y cynhelir hapchwarae mewn ffordd deg ac agored
- diogelu plant a grwpiau bregus eraill rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae.
Cyhoeddir 3 prif fath o drwydded yn unol â’r Ddeddf, sef:-
- trwydded gweithredydd
- trwydded bersonol
- trwydded safle
Caiff trwyddedau gweithredwyr a phersonol eu cyhoeddi gan y Comisiwn Hapchwarae a chaiff trwyddedau safle eu cyhoeddi gan y Cyngor. Yn ogystal â thrwyddedau, mae gwahanol fathau o ganiatâd ar gyfer rhai mathau o hapchwarae.
Trwyddedau Safleoedd
Mae angen trwyddedau safle i awdurdodi defnyddio safle ar gyfer:
- cynnal casino (Trwydded Safle Casino)
- darparu cyfleusterau bingo (Trwydded Safle Bingo)
- peiriannau Categori B3 neu B3 ael (Trwydded Safle Canolfan Hapchwarae Oedolion)
- peiriannau Categori Cael (Trwydded Safle Canolfan Adloniant Teulu)
- darparu cyfleusterau ar gyfer betio (Trwydded Safle Betio)
Cyn y medrir rhoi trwydded safle, mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod wedi cael trwydded weithredu briodol ac, os oes angen, trwydded bersonol gan y Comisiwn Hapchwarae.
Caniatâd
Mae’r mathau dilynol o ganiatâd ar gael:-
- caniatâd canolfan adloniant teulu heb drwydded
- caniatâd hapchwarae am wobr
- caniatâd safle gyda thrwydded alcohol
- caniatâd hapchwarae clwb
- caniatâd peiriant clwb
Canolfan Adloniant Teulu Heb Drwydded
Bydd y caniatâd canolfan adloniant teulu heb drwydded yn darparu ar gyfer teuluoedd, yn cynnwys plant a phobl ifanc heb oedolyn gyda hwy.
- Gall Canolfannau Adloniant Teulu gynnig unrhyw nifer o beiriannau categori D (gweler y ddolen islaw ar gyfer categorïau peiriant). Mae angen trwydded ar gyfer peiriannau categori uwch.
- Rhaid bod wedi ymgynghori gyda’r awdurdod trwyddedu a Phrif Swyddog yr Heddlu cyn y rhoddir caniatâd.
Bydd y caniatâd yn weithredol am 10 mlynedd ac nid oes ffi flynyddol. Rhaid gwneud cais am adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn i’r caniatâd ddod i ben.
Caniatâd Hapchwarae am Wobr
- Mae hapchwarae yn hapchwarae am wobr os nid yw natur na maint y wobr y chwaraeir amdani yn cael eu pennu drwy gyfeirio at nifer y bobl sy’n chwarae neu’r swm a dalwyd ar gyfer neu a godwyd gan yr hapchwarae.
- Medrir rhoi caniatâd hapchwarae am wobr os oes trwydded safle neu ganiatâd hapchwarae clwb yn weithredol ar y safle.
- Rhaid i’r Awdurdod Trwyddedu a Phrif Swyddog yr Heddlu ymgynghori ar y ceisiadau.
- Bydd caniatâd yn parhau am 10 mlynedd a rhaid gwneud cais am adnewyddu rhwng 2 a 6 mis cyn i’r caniatâd ddod i ben.
Caniatâd Hapchwarae Clwb a Chaniatâd Peiriannau Clwb
- Gall clwb aelodau a sefydliadau lles glowyr (ond nid clybiau masnachol) gael caniatâd hapchwarae clwb sy’n rhoi awdurdod i’r sefydliad ddarparu peiriannau hapchwarae yn ogystal â hapchwarae cyfle cyfartal a chyfle fel a ragnodir mewn rheoliadau.
- Os nad yw clwb yn dymuno cael yr amrediad llawn o gyfleusterau a ganiateir gan ganiatâd hapchwarae clwb, medrant wneud cais i’r awdurdod trwyddedu am ganiatâd peiriant clwb. Mae hyn yn awdurdodi’r deiliad i gael hyd at dri pheiriant hapchwarae o gategorïau B4 C neu D (h.y. tri pheiriant i gyd). Gall clybiau masnachol hefyd wneud cais am y caniatâd.
Safle Trwydded Alcohol
- Mae hawl awtomatig i ddarparu dau beiriant hapchwarae (o Gategori C neu D) i’w defnyddio mewn safle gyda thrwydded alcohol. Rhaid hysbysu’r awdurdod trwyddedu am y bwriad i ddarparu’r peiriannau a rhaid talu’r ffi a ragnodir.
- Gall yr awdurdod trwyddedu ganiatáu unrhyw nifer o beiriannau hapchwarae, a fydd yn cymryd lle ac nid yn ychwanegol at unrhyw hawl awtomatig.
- Rhaid i’r cais am beiriannau ychwanegol gael eu gwneud gan y person neu sefydliad sydd â’r drwydded alcohol “ar y safle”.
- Gall y deiliad tocyn wneud cais i’r awdurdod i addasu’r caniatâd i adlewyrchu newid yn enw’r deiliad. Rhaid i’r awdurdod gydymffurfio gyda’r cais cyn belled ag y talir y ffi a ragnodwyd.
- Rhaid i'r caniatâd gael ei gadw yn y safle a’i ddangos ar gais i gwnstabl heddlu, swyddog gorfodaeth neu swyddog awdurdod lleol.
- Ni fydd unrhyw ddarpariaeth adnewyddu ar gyfer y dosbarth hwn o ganiatâd gan fod y math hwn o ganiatâd yn amhenodol ac maent yn parhau mewn grym cyhyd ag mae'r safle yn parhau i fod â thrwydded alcohol a bod deiliad y caniatâd yn parhau i ddal y drwydded honno.
- Gall y deiliad wneud cais i amrywio’r caniatâd drwy newid y nifer a/neu gategori peiriannau a awdurdodir ganddo.
- Gall yr awdurdod ganslo’r caniatâd os yw’r deiliad yn methu talu’r ffi flynyddol.
Bingo
Mewn safleoedd gyda thrwydded alcohol, clybiau a sefydliadau lles glowyr, y trothwy yw os yw’r bingo a gaiff ei chwarae yn ystod unrhyw gyfnod o saith diwrnod yn fwy na £2,000 (un ai mewn arian neu wobrau a ddyfarnwyd), bydd pob gêm bellach o bingo a chwaraeir ar y safle hwnnw am y 12 mis hynny angen trwydded gweithredu i fod yn gyfreithiol. Mae hyn yn berthnasol i gemau'r dyfodol, sydd dros y trothwy o £2,000.
Os, ar ôl un digwyddiad o fingo ‘trosiant uchel’, mae pob gêm bellach dan y trothwy, nid oes angen trwydded weithredu. Mae dyletswydd gyfreithiol ar y trwyddedai neu’r clwb i hysbysu’r Comisiwn os yw bingo mewn unrhyw gyfnod saith diwrnod yn uwch na’r trothwy hyn ar unrhyw bwynt. Medrir cael gwybodaeth bellach gan y Comisiwn Hapchwarae neu’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). I gael manylion am ffioedd, ffurflenni cais a gwneud cais am drosi trwydded/caniatâd i safle newydd dan Ddeddf Hapchwarae 2005, dylid cysylltu â’r Adran Drwyddedu ar y rhif islaw.
Loteri Cymdeithasau Bach
Yn ogystal â thrwyddedau a chaniatâd, mae gan y Cyngor ddyletswydd ar gyfer cofrestru loteri cymdeithasau bach gan fod Deddf Hapchwarae 2005 wedi dileu’r ddeddfwriaeth a arferai reoleiddio loterïau.
- Rhaid i gymdeithas yr hyrwyddir loteri ar ei rhan gael ei sefydlu a’i chynnal ar gyfer dibenion elusennol
- ar gyfer diben galluogi cyfranogiad yn, neu i gefnogi, chwaraeon, athletau neu weithgareddau diwylliannol
- ar gyfer unrhyw ddiben heblaw budd preifat.
Yn ychwanegol, rhaid i’r gymdeithas sicrhau fod cyfanswm gwerth y gwerthiannau tocyn yng nghyswllt pob loteri yn £20,000 neu lai neu fod y cyfanswm gwerthiant tocynnau ar gyfer blwyddyn calendr yn llai na £250,000. Mae angen trwydded gan y Comisiwn Hapchwarae os yw’r unrhyw un o’r gwerthoedd hyn yn uwch.
Mae cofrestriad loteri yn rhedeg am gyfnod heb gyfyngiad ond mae ffi flynyddol yn daladwy. Y ffioedd presennol yw £40 ar gyfer cofrestriadau newydd a £20 am y ffi flynyddol. Rhaid i bob tocyn mewn loteri gostio’r un faint ac ni all unrhyw un wobr fod yn werth mwy na £25,000. Caniateir cario gwobrau loteri drosodd cyn belled nad yw unrhyw un wobr yn fwy na’r trothwy £25,000. Rhaid gweithredu o leiaf 20% o drafodion y loteri ar gyfer dibenion y loteri ac mae ffurflenni i’w dychwelyd o fewn 3 mis o gynnal loteri.





