Troseddau Stepen Drws

Medrir diffinio hyn fel achosion pan fo rhywun yn dod at y drws ac yn twyllo’r preswylydd i adael iddynt ddod mewn fel y medrant ddwyn neu’n eu darbwyllo i roi arian iddynt am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt byth yn eu gweld neu’n codi symiau afresymol am waith neu nwyddau gwael.

Gall yr unigolion hyn ddweud eu bod yn swyddogion (e.e. bwrdd dwr, nwy neu drydan) er mwyn lladrata, neu efallai ofyn am dâl am orffen swydd – yn aml iawn rhoi wyneb ar lôn, trwsio to, neu werthu celfi/carpedi.

Yn yr holl achosion hyn mae’r unigolion yn cnocio drysau heb wneud apwyntiad, ac yn aml iawn yn targedu’r henoed a phobl sy’n byw ar ben eu hunain.

Wrth fynd i’r afael â’r math yma o drosedd anelwn i:
 
1. Addysgu’r cyhoedd fel eu bod yn fwy ymwybodol o’r mathau hyn o droseddwyr fel eu bod yn llai bregus ac yn medru delio gyda galwyr carreg drws yn fwy effeithiol.
2. Ymateb ar unwaith (mewn cysylltiad â’r heddlu) pan dderbynnir cwynion am fasnachwyr sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau ar garreg y drws. Gall hyn fod pan gaiff preswylwyr eu twyllo i dalu am waith neu nwyddau is na’r safon, sy’n anniogel neu a gam-ddisgrifiwyd.
3. Cydlynu gyda’r Heddlu ac asiantaethau gorfodaeth arall fel y caiff gwybodaeth ei ledaenu’n effeithiol rhwng asiantaethau er mwyn ymladd yn fwy effeithol yn erbyn troseddu.

Yn olaf, dymunwn annog aelodau o’r cyhoedd fod angen i ni gydweithio er mwyn cael gwared â’r math hwn o droseddu. Dengys tystiolaeth fod y troseddwyr hyn yn drefnus iawn a bod eu gweithgareddau’n achosi gofid neilltuol i breswylwyr, eto mae’r cyhoedd weithiau’n ymddangos yn amharod i roi adroddiadau ar y math yma o drosedd. Anogwn unrhyw un sydd â gwybodaeth am droseddu carreg drws i glicio ar y ddolen i trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk neu gysylltu â’r Adran ar 01495 356138.