Proffil y Prynwr
Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gwario tua £80 miliwn yn flynyddol ar ystod eang o nwyddau, gweithfeydd a gwasanaethau.
Er mwyn sicrhau’r gwerth gorau ar gyfer y gwario hwn, mae cyfradd helaeth o dan gytundeb. Gallwch edrych ar fanylion y cytundebau yn y gofrestr cytundebau sydd wedi ei lleoli yn adran “Caffaeliad - Rhestr cytundebau” o’r tudalennau gwe yma. Mae’r gofrestr yn darparu manylion o werthoedd, cyflenwyr a chytundebwyr, dyddiadau terfyn a manylion cyswllt am ymholiadau.
Rydym ynghlwm mewn nifer gynyddol o gytundebau ar y cyd gydag awdurdodau eraill, ac o’r herwydd, nid ydym bob amser yn tendro ar gyfer busnes newydd wrth ein hunain, fodd bynnag mae’r cytundebau sydd wedi eu profi’n gystadleuol gyda ni yn cael eu rheoli gan y trothwyau cyllidol canlynol:
Mae cytundebau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn meddu ar y trothwyau canlynol:
O dan £5,000 - O leiaf 2 amcan bris i brofi cystadleuaeth
Rhwng £5,000 a £50,000 - gwahodd o leiaf 3 dyfyniad ysgrifenedig
Rhwng £50,000 a £144,459 - gwahodd tendrau ffurfiol y DU
Yn fwy na £144,459 - broses tendro ffurfiol yr Undeb Ewropeaidd (UE)
Mae cytundebau ar gyfer gweithfeydd yn meddu ar y trothwyau canlynol:
O dan £5,000 - O leiaf 2 amcan bris i brofi cystadleuaeth
Rhwng £5,000 a £50,000 - Rhaid gwahodd dyfyniadau ysgrifenedig
Rhwng £50,000 a £3.6 miliwn - Rhaid gwahodd tendrau ffurfiol y DU
Yn fwy na £3.6miliwn - broses tendro ffurfiol yr Undeb Ewropeaidd (UE)
Yn ychwanegol at dendro am gytundebau unigol, rydym hefyd yn dal nifer o restrau dethol o gyflenwyr sydd wedi eu cymeradwyo. Mae’r rhain gan fwyaf ar gyfer gwaith i eiddo a phriffyrdd ac fel arfer yn cael eu hadolygu a’u hysbysebu am geisiadau newydd pob tair blynedd. Am fanylion o’r rhestrau dethol a chytundebau, ewch os gwelwch yn dda i’r adran Cyflenwyr Cymeradwy.
Mae ein tendrau yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol a chenedlaethol, cylchgronau masnach, gwefan yr awdurdod ac ar lefel yr UE, Cylchgrawn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEC), Cyfleoedd Llywodraeth a Government Opportunities a Contrax Weekly.
Rydym o hyd yn edrych i wella hyblygrwydd corfforaethol o fewn ein hymarferion caffaeliad a sicrhau gwerth gorau ar gyfer y Cyngor wrth weithio o fewn gofynion statudol a’r UE. Mae cyflenwyr lleol yn cael eu hannog i dendro ar gyfer ein busnes lle bo hynny’n bosib ac yn medru cael mynediad at wybodaeth benodol am sut i wneud busnes gyda ni drwy fynd at “Gwerthu i’r Cyngor” - dogfen ganllaw i gyflenwyr a chytundebwyr o fewn yr adran Polisi Caffaeliad.
Mae gennym raglen e-gaffaeliad sylweddol sydd mewn cyfnodau gwahanol o ddatblygiad o fewn y Cyngor a fydd yn cyflwyno archebu electronig o nwyddau a thalu cyflenwyr a thendro electronig, a fydd yn arwain at well effeithlonrwydd a gostyngiad mewn costau i ni a’r bobl hynny sydd yn gwneud busnes gyda ni.





