Caffaeliad Corfforaethol
Croeso i dudalennau gwe Uned Caffaeliad Corfforaethol (UCC) Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Mae’r UCC yn rhan o’r Adran Polisi Cyllidol sydd wedi ei leoli o fewn Adran Adnoddau. Mae Caffaeliad yn gweithio ar y cyd gyda’r Tîm Gwella Effeithlonrwydd Gwasanaeth a’r Tîm Polisi a Thechnegol.
Mae’r Cyngor yn prynu ystod eang nwyddau, gweithfeydd a gwasanaethau oddi wrth nifer o gwmnïau, sydd yn amrywio o ran gwerth o ychydig bunnoedd i filoedd o bunnoedd.
Sefydlwyd yr Uned ar y 1af o Ebrill 2003. Ei rôl yw darparu cyngor a chefnogaeth strategol i’r holl gyfarwyddaethau o fewn yr Awdurdod, a sicrhau bod yna ddull cyson cyson tuag at gaffaeliad ar draws ystod eang o nwyddau, gweithfeydd a gwasanaethau.
Rydym yn anelu i wella’r broses gaffaeliad yn barhaus er mwyn sicrhau gwerth gorau o’r cytundebau hynny yr ydym yn cytuno iddynt a minimeiddio’r gost weinyddol o brynu, wrth sicrhau bod yr holl gaffaeliad yn cydymffurfio gyda rheolau’r Cyngor a chyfraith genedlaethol ac Ewropeaidd.





