Cefnogaeth a chyngor busnes

 

Uned Datblygu Economaidd


Nod Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yw helpu busnesau i gychwyn, tyfu a ffynnu o fewn Blaenau Gwent a hefyd i adeiladu perthynas gyda mewnfuddsoddwyr newydd a datblygwyr a all fod yn ystyried lleoli prosiectau o fewn yr ardal. Mae’r tîm yn cynnig arweiniad, cefnogaeth a chyfeirio yng nghyswllt safleoedd ac adeiladau, cymorth ariannol a hefyd faterion busnes cyffredinol.


Lle gwych i wneud busnes


Mewn lleoliad cyfleus o fewn y Deyrnas Unedig, mae Blaenau Gwent yn cynnig mynediad ardderchog i bob rhan o’r wlad oherwydd ei agosatrwydd at draffyrdd yr M4, M50 a M5/6, ynghyd â ffordd Blaenau’r Cymoedd. O ran nwyddau, mae Blaenau Gwent o fewn 40 munud o ddociau Bryste a Chasnewydd. O ran teithio rhyngwladol, mae Blaenau Gwent lai nag awr ymaith o feysydd awyr cyfagos Caerdydd a Bryste.


Mae Blaenau Gwent yn cynnig cysylltiad rheilffordd teithwyr i Gaerdydd, ac mae hefyd â chyfleusterau rhagorol ar gyfer ‘e-fusnes’ drwy gysylltiadau telathrebu band eang ardderchog. Mae seilwaith Blaenau Gwent yn rhoi system gysylltu gyflym, dibynadwy a chost effeithiol i gwsmeriaid, cyflenwyr a chydweithwyr mewn marchnadoedd yn y Deyrnas Unedig, Ewrop ac yn fyd-eang.


Gweithlu medrus a chynhyrchiol


Mae gan Flaenau Gwent weithlu medrus, ymroddedig a theyrngar a gefnogir gan ysgolion, colegau a phrifysgolion ardderchog. Mae llu o sefydliadau academaidd safon uchel yn y cylch yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru, Casnewydd - oll o fewn cylch 40 milltir. Mae’n ddi-os fod pwyslais cryf Blaenau Gwent ar addysg a hyfforddiant seiliedig ar sgiliau yn un o’r rhesymau am natur ddeinamig a hyblyg y gweithlu lleol. Mae amrywiaeth o gynlluniau cefnogi hefyd yn gweithredu o fewn yr ardal, megis cymorth recriwtio a rhaglen lwyddiannus Iawn Job Match i sicrhau y caiff sgiliau cyflogeion eu teilwra’n ddeallus i sicrhau eu bod yn gydnaws ag anghenion cyflogwyr.


Yn ogystal â chynnig lleoliad gwych a seilwaith o safbwynt busnes, mae gan Flaenau Gwent hefyd dirwedd rhyfeddol. Yn wirioneddol yn mwynhau’r ‘gorau o ddau fyd’, mae’r Fwrdeisdref Sirol yn ffurfio rhan o ffin ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn ymyl Safle Treftadaeth Byd. Mae ei dirwedd tir mynyddig hardd a’i gyfoeth o hanes lleol yn gwneud Blaenau Gwent yn lleoliad diguro i unrhyw fusnes dyfu a datblygu.


Cymorth Ariannol


Ymwelwch â’n hadran Grantiau Busnes i gael gwybodaeth am y cymorth grant sydd ar gael. Medrwch fynd yno drwy ddewis y ddolen briodol o’r Tudalennau Cysylltiedig ar y panel hwylio ar ochr dde’r dudalen hon, neu drwy ein ffonio ar 01495 355700. 

Eiddo A Safleoedd Masnachol

Mae gan Gyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent amrywiaeth o adeiladau busnes a safleoedd tir datblygu i gefnogi anghenion busnes.

Mae Uned Datblygu Economaidd y Cyngor yn rheoli portffolio eiddo yn cynnwys 14 stad gyda chyfanswm o 186 uned busnes. Mae unedau diwydiannol yn amrywio o 28 m sg (300 tr sg) i 1,542 m sg (16,600 tr sg) a swyddfeydd o 15 m sg (160 tr sg) o 279 m sg (3000 tr sg).

Medrwn helpu gyda ..

 

  • Unedau sefydlu busnes
  • Gofod swyddfa safon uchel
  • Unedau diwydiannol cyfun - gofod swyddfa safon uchel gydag ardaloedd cynhyrchu/gweithdy
  • Lleoliadau proffil uchel ar stadau diwydiannol a pharciau busnes modern
  • Tir ar gyfer eich prosiect dylunio ac adeiladu eich hunan

Mae defnydd ar gael ar delerau les hyblyg a thrwyddedau ‘rhwydd i mewn – rhwydd allan’. I gael mwy o wybodaeth ac i drafod eich gofynion busnes, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Busnes ar  01495 355700

Cofrestr Eiddo

Mae Cofrestr Eiddo Blaenau Gwent yn gasgliad o fanylion eiddo ar gyfer unedau diwydiannol a swyddfeydd gwag o fewn yr ardal. Yn ogystal ag eiddo y mae’r Cyngor yn berchen arnynt, mae’r gofrestr yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd gan berchnogion a rheolwyr stad ar gyfer safleoedd busnes sector preifat.

Mae’r gofrestr eiddo yn rhoi gwybodaeth allweddol ar eiddo sydd ar gael yn cynnwys y maint, lleoliad a manylion cyswllt. Mae manylebau eiddo mwy cynhwysfawr a ffotograffau ar gael ar gais.
I gael copi o’r Gofrestr Eiddo, cysylltwch os gwelwch yn dda â’r rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost uchod.

Cyn-Deorfa - Trowch eich Syniadau’n Aur yn Ystafelloedd Alcemi


Cynlluniwyd Ystafelloedd Alcemi yng Nghanolfan Busnes Lakeside yn Nantyglo ger Brynmawr yn benodol i roi amgylchedd delfrydol i ‘ddarpar entrepreneuriaid’ i ymchwilio eu syniadau a datblygu eu mentrau busnes. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfeiriad proffesiynol i’w defnyddwyr ynghyd â defnydd cyfrifiaduron (yn cynnwys AppleMacs) ac offer swyddfa arall ynghyd â mynediad i rwydwaith eang o gynrychiolwyr defnyddiol o sefydliadau cymorth busnes eraill.

Crëwyd Ystafelloedd Alcemi i roi’r holl help mae pobl ei angen i ymchwilio a datblygu eu breuddwydion busnes.

Mae Ystafelloedd Alcemi yn cynnig:

 

  • Mynediad i gymorth a chyngor busnes pwrpasol
  • Amgylchedd proffesiynol, safon uchel
  • Llyfrgell busnes cynhwysfawr o lyfrau cyfeirio
  • Mynediad diogel i gyfrifiaduron
  • Defnydd offer swyddfa ac ystafelloedd cyfarfod
  • Help gyda chyflwyniadau a chynigion
  • Gwybodaeth ar gefnogaeth ariannol, yn cynnwys grantiau
  • Cyfleuster mewn lleoliad canolog o fewn cyrraedd rhwydd i gludiant cyhoeddus

Os oes gennych syniad am gynnyrch neu wasanaeth newydd, ffoniwch ni ar 01495 355700 i gael ffurflen gais, neu heibio alw’r Ganolfan.

Mynediad am ddim yng Nghyfeiriadur Busnes Blaenau Gwent a’r Pum Sir


Mae Uned Datblygu Economaidd Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn y broses o weithio’n agos gyda phedwar awdurdod lleol arall i greu Cyfeiriadur Busnes ‘Ar Lein’.


Yn ogystal â chyfeiriadur busnes lleol, yn llwyr ar gyfer busnesau ym Mlaenau Gwent, bydd prif gyfeiriadur busnes ar gyfer busnesau yn ardaloedd 5 awdurdod Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd.


Bydd y cyfeiriadur busnes yn rhoi cyfle i chi fanteisio ar gyfleuster marchnata am ddim i gynorthwyo gyda hyrwyddo a datblygu eich busnes.

 

Manylion Cyswllt

For further information please contact a member of the Economic Development Unit:
   
Telephone: 01495 355700

E-bost : business.services@blaenau-gwent.gov.uk