Cefn gwlad

Coity Mountain from Cwmtillery Valley

Mae Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ymestyn dros ardal o gymoedd dwfn a bryniau agored i'r tywydd.

Er gwaethaf y ffaith bod yr ardal, yn draddodiadol, wedi'i hystyried yn un ddiwydiannol ar gyfer codi glo a chynhyrchu dur, erbyn hyn y mae mwyafrif y tir yn gefn gwlad a 77% o'r tir wedi'i ddefnyddio ar gyfer ffermio, tiroedd comin ac ardaloedd agored.

Un o nodweddion y tirlun yw'r mynyddoedd sydd wedi'u rhannu gan dri chwm cul. Yn y dwyrain ceir Cwm Ebwy Fawr sydd yn rhedeg o Frynmawr trwy Nantyglo, Blaenau, Abertyleri a Chwe Chloch cyn cysylltu â'r Ebwy Fawr. Mae Cwm Ebwy Fawr yn dechrau yn Rassau ac yn disgyn trwy Lyn Ebwy a Chwm tra bo Cwm Sirhowy yn dechrau heibio Trefil, trwy Dredegar a thuag at y Coed Duon.

Tir amaethyddol yw bron â hanner tir y Fwrdeistref Sirol. Mae amaeth wedi, ac yn parhau i, ffurfio rhannau helaeth o'n cefn gwlad a gall newidiadau i reolaeth amaethyddol gael effaith ar gynefinoedd (e.e. coetiroedd brodorol) a rhywogaethau (e.e. Cornicyllod) pwysig.

Gall bodolaeth ardaloedd gwyrdd, parciau, gerddi, coed ac alotments o fewn ein trefi a'n pentrefi gynnig lloches ar gyfer bywyd gwyllt, cyfle i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth am yr amgylchfyd naturiol a gwella lles corfforol a meddyliol pobl.