Rheoli llygredd - dwr

Mae swyddogion o’r Tîm Rheoli Llygredd yn cymryd samplau o wahanol ffynonellau o ddwr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siwr ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio. Rydym o samplu’r canlynol yn gyson:

Cyflenwadau Dwr Preifat

Ym Mlaenau Gwent mae 35 cyflenwad dwr preifat.  Caiff y rhain eu samplu a’u dadansoddi er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Cyflenwadau Dwr Preifat (Cymru) 2010. 

Pwll Nofio a Sbaon

Caiff samplau eu cymryd o’r pyllau nofio a’r sbâu yn y Canolfannau Hamdden a phyllau hydrotherapi eraill pedair gwaith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod y prosesau diheintiad y’u defnyddir yn trin y dwr yn effeithiol.

Ceginau Ysbytai a Chynhyrchwyr Bwyd

Caiff samplau eu cymryd o’r prif gynhyrchwyr bwyd yn yr ardal ac o geginau’r ysbytai er mwyn sicrhau bod y cyflenwad dwr yn ddiogel i’w ddefnyddio.    

Manylion Cyswllt

Adran Iechyd yr Amgylchedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Anvil Court
Heol yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: 01495 357813
Ffacs:01495 355834

Ebost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk