Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi awdurdodi Swyddogion Gorfodi Sifil yr Amgylchedd i batrolio strydoedd y fwrdeistref i gyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig (HCBau) ar gyfer y troseddau canlynol:
- Taflu sbwriel ar y llawr (mae hyn yn cynnwys sigaréts a sigaréts rydych chi’n eu rholio)
- Baw Cwn
- Cwn oddi ar eu tennyn mewn ardaloedd penodol
- Cwn mewn ardaloedd dan waharddiad (mae hyn yn cynnwys cwn ar dennyn neu os bod y ci yn cael ei gario) Gellir cael rhestr o’r ardaloedd dan waharddiad ar wefan y cyngor http://www.blaenau-gwent.gov.uk/CYM/environment/16932.asp
Talu Hysbysiad Cosb Benodedig
- Sicrhewch fod rhif yr HCB wedi’i gofnodi gyda’ch taliad neu wedi’i nodi ar eich siec/archeb bost
- Os telir yr Hysbysiad Cosb Benodedig o fewn 14 niwrnod i’r drosedd, caiff ei ostwng i £50. (yn ddilys ar gyfer HCBau a gyhoeddwyd ar ôl y 1af o Ebrill 2012 yn unig)
- Os ni thelir y gosb o fewn 14 niwrnod, mae’r swm yn codi i £75
- Gellir talu gydag arian parod neu siec yn y lleoedd canlynol: Anvil Court, Abertyleri neu’r Ganolfan Ddinesig yng Nglynebwy
- Gellir postio siec neu archeb bost at Anvil Court, Heol yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB
- Nodwch ni fedrwn ni gymryd taliadau â cherdyn dros y ffôn a does dim cyfleuster i dalu fesul tipyn neu i drefnu cynllun talu
Peidio â Thalu Hysbysiad Cosb Benodedig
Os na fyddwn yn derbyn taliad o fewn 6 wythnos i’r drosedd, bydd Blaenau Gwent fel arfer yn cychwyn gweithrediadau cyfreithiol a bydd gofyn i’r troseddwr ymddangos gerbron mainc yr ynad mewn llys.
I ddadlau yn erbyn yr Hysbysiad Cosb Benodedig neu os na fedrwch chi fforddio’r Gosb
- Yr unig ffordd gallwch chi ddadlau yn erbyn yr hysbysiad yw trwy’r llys ble fydd ynad yn penderfynu os bod y tocyn yn ddilys neu beidio
- Os na fedrwch chi fforddio talu’r gosb bydd rhaid i chi fynd i’r llys ac, os cewch eich dyfarnu’n euog, gall y barnwr, ble fo’n ddoeth, gytuno ar gynllun talu
- I fynd i’r llys, cwblhewch yr adran ar waelod y copi glas neu felyn a’i gyflwyno gan ddilyn y cyfarwyddiadau
- Nodwch: mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu costau ychwanegol
Gwneud cwyn am SUT gyhoeddwyd yr Hysbysiad
Os oes gennych gwyn ynglyn â SUT gyhoeddwyd yr HCB, dylech ei gyflwyno ar ffurf ysgrifenedig neu ei anfon ar-lein. Gellir postio cwynion at Anvil Court, Iechyd yr Amgylchedd, Heol yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB.





