Rheoli llygredd - cymeradwyaeth deddf aer glân

Cyflwynodd y Ddeddf Aer Glân 1993, ystod eang o reoliadau newydd megis y rhai hynny sydd yn rheoli allyriadau mwg ac uchder simneiau.

Mae rheoli uchder simneiau yn galluogi awdurdodau lleol i gymryd i ystyriaeth nifer o ffactorau perthnasol wrth bennu uchder simnai ac i sicrhau nad yw’r crynodiadau ar lefel y tir o’r llygryddion a ddaw o’r simnai yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles y boblogaeth.

O dan adran 14 o’r Ddeddf, oni bai fod uchder y simnai wedi ei gymeradwyo gan y Cyngor a bod yna gydymffurfiaeth i unrhyw amodau sydd wedi eu hatodi i’r gymeradwyaeth, mae’n drosedd i achosi neu ganiatáu bwriadol i ffwrnais i gael ei defnyddio i:
      

  • losgi olew  maluriedig 
  • llosgi ar radd o 45.4 kg neu fwy'r awr unrhyw  fater caled arall neu
  • llosgi ar radd  sydd gyfwerth â 366.4 DW neu fwy unrhyw hylif neu fater nwyol

Rhaid i gais am uchder simnai gynnwys gwybodaeth ddigonol i ganiatáu i’r cyfrifau priodol i gael eu gwneud.

Rhaid i’r Cyngor ystyried y cais i gymeradwyo uchder simnai am ffwrnais a rhoi penderfyniad ysgrifenedig  o fewn 28 diwrnod i dderbyn y cais, oni bai y cytunir mewn ysgrifen rhwng yr ymgeisid a ninnau y dylid caniatáu cyfnod hirach. Os ydym yn methu â delio gyda’r cais o fewn yr amser penodol hwn, yna rhoddir cymeradwyaeth heb unrhyw amodau.

Am fwy o wybodaeth ar hyn cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Tîm Rheoli Llygredd ar (01495) 357813.
   

    

Manylion Cyswllt

Adran Iechyd yr Amgylchedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Anvil Court
Heol yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn:    01495 357813
Ffacs:  01495 355834
 

Ebost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk